Y Llyfrgell Genedlaethol – Pwyllgor Diwylliant y Senedd yn galw am sicrhau ei dyfodol ariannol ar frys

Cyhoeddwyd 04/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/11/2020

Ar ôl clywed rhybuddion clir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ynghylch y problemau ariannol difrifol y mae’n ei wynebu, mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro ei chynllun i sicrhau dyfodol y sefydliad cenedlaethol ar frys. 

Mi fydd Dafydd Elis-Thomas AS, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn cwrdd â’r Pwyllgor ar 12 Tachwedd i drafod cyllid ar gyfer y Llyfrgell. Mi fydd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol yn cwrdd â’r Pwyllgor ar yr un diwrnod.  

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi rhybuddio ei bod mewn sefyllfa ariannol beryglus iawn o ganlyniad i hanes hir o danariannu. Mae’r Llyfrgell hefyd yn galw am gyllid ychwanegol i gynnal yr adeilad, er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch staff ac ymwelwyr, ac mae’n dweud ei fod yn bosib y bydd pobl yn colli eu swyddi heb yr arian hwn. 

Daeth adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i'r casgliad sefyllfa ariannol hyfyw y Llyfrgell dan fygythiad. Roedd y panel annibynnol wedi archwilio gweithgareddau'r llyfrgell a sut mae’n cael ei rheoli cyn i bandemig y coronafeirws daro. 

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn gartref i'r casgliad cenedlaethol o lawysgrifau Cymreig, Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, a'r casgliad mwyaf cynhwysfawr o baentiadau a phrintiau topograffig yng Nghymru. Dyma un o'r llyfrgelloedd ymchwil mwyaf yn y DU ac mae ganddi dros 6.5 miliwn o lyfrau a chyfnodolion a'r casgliadau mwyaf o archifau, portreadau, mapiau a ffotograffau yng Nghymru.  

Yn ôl Helen Mary Jones AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 

“Does dim dwywaith amdani – mae’r Llyfrgell Genedlaethol mewn sefyllfa ddifrifol iawn. Rydym yn gwybod bod y Llyfrgell mewn sefyllfa anodd cyn pandemig y coronafeirws oherwydd hanes hir o danariannu, ac mae hyn wedi gwaethygu yn sgil cyfyngiadau symud sy’n atal ymwelwyr rhag mynd yno. 

“Mae canfyddiadau’r adolygiad annibynnol, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn peri pryder. Rydym yn galw ar y Dirprwy Weinidog i gwrdd â ni er mwyn esbonio beth sydd wedi digwydd a beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol y sefydliad hanfodol hwn. 

“Y Llyfrgell Genedlaethol yw ceidwad rhai o elfennau pwysicaf ein hanes, ac fel sefydliad mae ganddi ei hanes cyfoethog ei hun. Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ei dyfodol. Dyna pam rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi atebion fel mater o frys.” 

Gan gydnabod y brys i weithredu, mae’r Pwyllgor wedi ail-drefnu ei amserlen fusnes er mwyn trafod cyllid ar gyfer y Llyfrgell yn eu cyfarfod ar ddydd Iau 12 Tachwedd.  

Mi fydd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, yn ymddangos ger bron y Pwyllgor am 9.30 a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas AS, am 10.30. Mae modd gwylio yn fyw ar Senedd TV