Y Llywydd - Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i arwain y frwydr yn erbyn anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru

Cyhoeddwyd 24/04/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd - Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i arwain y frwydr yn erbyn anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru

24 Ebrill 2013

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ailddatgan ei hymrwymiad i arwain y frwydr yn erbyn anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.

Gwnaeth yr addewid hwn ar y diwrnod y gwnaeth Chwarae Teg, y corff sy'n ymgyrchu dros gydraddoldeb, lansio adroddiad sy'n datgelu bod menywod yn dal i wynebu anghydraddoldeb, stereoteipio a gwahanu yn y gweithlu yng Nghymru.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r mater o anghydraddoldeb rhwng y rhywiau i fenywod, ac yn arbennig mewn bywyd cyhoeddus.

Dywedodd y Llywydd, "Mae'r adroddiad gan Chwarae Teg yn cyflwyno darlun difrifol ac mae'n cefnogi'r gwaith y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf fel rhan o'i raglen "Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus."

"Mewn digwyddiadau ledled Cymru, mae menywod wedi bod yn dweud wrthym eu bod yn wynebu rhwystrau rhag ymgymryd â swyddi fel cynghorwyr lleol, Ynadon, llywodraethwyr ysgolion a swyddi cyhoeddus eraill.

"Er bod cynnydd wedi bod, mae gwaith y Cynulliad yn dangos bod cryn ffordd i fynd eto i sicrhau sefyllfa gyfartal o ran cyfleoedd i fenywod.

Fy ymrwymiad i yw cadw'r mater ar frig yr agenda yng Nghymru drwy drefnu cyfres o seminarau, gyda siaradwyr benywaidd uchel eu proffil, er mwyn annog rhagor o fenywod i gymryd rhan.

"Byddwn hefyd yn cynyddu'r gwasanaethau mentora a chyngor sydd ar gael i fenywod drwy lansio porth newydd ar y we a fydd yn gweithredu fel siop un alwad ar gyfer menywod sy'n dymuno canfod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt mewn bywyd cyhoeddus, sut i wneud cais amdanynt, a sut i elwa o brofiadau sy'n cael eu rhannu gan fenywod eraill."

Mae menywod uchel eu proffil o fyd gwyddoniaeth a chwaraeon eisoes wedi gwneud areithiau allweddol i gynulleidfaoedd o fenywod yn y Cynulliad.

Mae'r rhain yn cynnwys y Farwnes Susan Greenfield, y gwyddonydd blaenllaw; a'r Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru.

Mae meysydd eraill fel y gyfraith, hawliau sifil a'r cyfryngau bellach wedi'u nodi fel meysydd lle mae menywod yn wynebu rhwystrau ac ymhlith siaradwyr y dyfodol fydd Shami Chakrabarti, yr ymgyrchydd hawliau sifil, ar 2 Gorffennaf, a Janet Street-Porter, y ddarlledwraig a'r newyddiadurwraig, ar 10 Hydref.

Ffigurau eraill a fydd yn cymryd rhan yn y sesiynau fydd Tanni Grey-Thompson, y Baralympwraig wych o Gymru a Bethan Elfyn, y cyn Droellwr Disgiau ar Radio 1.

Bydd tocynnau ar gyfer y digwyddiad gyda Shami Chakrabarti ar gael o ganol mis Mai drwy ffonio llinell archebu'r Cynulliad ar 0845 010 5500 neu anfon e-bost at archebu@cymru.gov.uk.