Y Llywydd, Elin Jones AC, i drafod hawliau plant a Senedd Ieuenctid Cymru gyda Hillary Clinton

Cyhoeddwyd 13/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Yn rhan o'i hymweliad â Phrifysgol Abertawe, bydd Hillary Rodham Clinton yn cael cyfle i drafod bwriad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu Senedd Ieuenctid gyda’r Llywydd, Elin Jones AC.

Bydd Hillary Clinton yn cael doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe ac yn cyflwyno darlith, a bydd Ysgol y Gyfraith yn cael ei hailenwi yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.

Mae'r ddoethuriaeth er anrhydedd yn cydnabod ymrwymiad Hillary Clinton i hyrwyddo hawliau teuluoedd a phlant ledled y byd. Mae Prifysgol Abertawe, sy'n gartref i Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc, yn rhannu'r ymrwymiad hwnnw ac wedi cyfrannu at lunio polisi cyhoeddus Cymru ar hawliau dynol plant, gan gynnwys datblygu polisi ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru.  

Ym mis Hydref 2016, derbyniwyd cynnig yn unfrydol gan y Cynulliad i sefydlu senedd ieuenctid newydd i Gymru. Ymgynghorodd Comisiwn y Cynulliad â thros bum mil o bobl ifanc rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni a phleidleisiodd mwyafrif llethol o blaid y cynigion a amlinellwyd.

Yr wythnos diwethaf, cytunodd y Comisiwn i fwrw ymlaen â'r cynlluniau, ac mae'r trefniadau wrthi'n cael eu cwblhau i rymuso plant a phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed i ethol 60 aelod i gynrychioli eu barn fel Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru.

Meddai'r Llywydd, Elin Jones AC:

"Mae Cymru'n haeddiannol falch o'r hyn y mae wedi'i gyflawni i hyrwyddo'r agenda hawliau plant ac rwy'n falch o allu rhannu gyda Hillary Clinton sut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyfrannu at hyn. Rydym mewn sefyllfa dda ar y llwyfan rhyngwladol yn sgil sefydlu swyddfa'r Comisiynydd Plant ac effaith y gyfraith ar Hawliau Plant a Phobl Ifanc, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru roi sylw dyladwy i'r hawliau a'r dyletswyddau sydd yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC).

"Nawr, rydym yn cynllunio ar gyfer ethol Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru, ar ôl ymgynghori â miloedd o bobl ifanc o gymunedau ledled Cymru am y math o senedd ieuenctid y maent am ei gweld.

Ar hyn o bryd nid yw pobl ifanc yng Nghymru yn gallu pleidleisio yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru nes iddynt fod yn 18 oed.  Mae panel arbenigol a gomisiynwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol wrthi'n ystyried y trothwy oed hwn, a pha un a ddylid ei ostwng. Er hyn, rydym yn credu'n gryf bod pobl ifanc i gyd yn ddinasyddion y mae'n rhaid i'w lleisiau gael eu clywed wrth wraidd y ddadl wleidyddol yng Nghymru.

"Yn dilyn ein hymgynghoriad â phobl ifanc, rwy'n falch o gyhoeddi nodweddion allweddol Senedd Ieuenctid newydd Cymru.”

Dyma rai o'r manylion:

  • Bydd gan y Senedd Ieuenctid 40 Aelod a fydd yn cynrychioli etholaethau Cymru ac 20 a fydd yn cynrychioli grwpiau penodol;
  • Etholir yr Aelodau am ddwy flynedd a chaniateir iddynt sefyll etholiad fwy nag unwaith;
  • Bydd y Senedd Ieuenctid yn annibynnol ar bob plaid wleidyddol;
  • Bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn grymuso pobl ifanc i gyflawni newid yn y materion sy'n bwysig iddynt; a
  • Bydd yn cynrychioli barn pobl ifanc Cymru ac yn sicrhau bod pobl ifanc yn dylanwadu ar waith y Cynulliad.

Ychwanegodd Elin Jones: "Rwyf am i'r Senedd Ieuenctid gyrraedd pobl ifanc mewn cymunedau ym mhob cwr o'r wlad, yn enwedig y rhai nad yw eu lleisiau fel arfer yn cael eu clywed.  Bydd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn mynd allan ac yn gwrando ar bobl ifanc eraill, ac yn rhoi cyfle iddynt fynegi eu barn a'u galluogi i fod yn ddinasyddion mwy gweithredol yn eu gwlad.”

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies: "Rydym yn eithriadol o falch o gyflwyno gwobr anrhydeddus i Hillary Rodham Clinton, ffigwr o bwys rhyngwladol enfawr, yn arbennig felly ym maes hawliau dynol, yn enwedig hawliau plant a phobl ifanc.  Mae'n wych ei bod hi wedi dewis Prifysgol Abertawe fel lleoliad ei hymddangosiad cyhoeddus cyntaf ar ei hymweliad â’r Deyrnas Unedig. Mae'n brawf pellach bod Prifysgol Abertawe yn cael ei chydnabod fel canolfan addysg ac ymchwil ragorol ledled y byd."

Meddai Jane Williams, Athro Cyswllt a Chyd-Gyfarwyddwr Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc ym Mhrifysgol Abertawe:

“Mae pawb ohonom yn Arsyllfa Cymru - ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor - wrth ein boddau bod y Llywydd yn gallu ymuno â ni i ddathlu cyswllt Hillary Clinton â'n gwaith ar hawliau dynol plant. Mae arweinyddiaeth y Llywydd a'i hymgysylltiad â'r bobl ifanc a fu'n gweithio mor galed i ymgyrchu dros Senedd Ieuenctid Cymru yn brawf y gall pawb o bob oed gydweithio i greu Cymru well - a byd gwell - i bawb.”