Y Llywydd i groesawu arwyr Cymreig y Gemau Olympaidd i'r Senedd

Cyhoeddwyd 22/08/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd i groesawu arwyr Cymreig y Gemau Olympaidd i’r Senedd

Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu tri o arwyr Cymreig y Gêmau Olympaidd i’r Senedd ganol dydd Mawrth 26 Awst, ar y cyd â’r Prif Weinidog, Rhodri Morgan, a’r Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones.

Bydd y medalyddion aur, Nicole Cooke a Geraint Thomas, a’r medalydd arian, David Davies, yn cyrraedd ar fws deulawr heb do ar ôl taith o amgylch Bae Caerdydd. Cynhelir seremoni byr ar risiau’r Senedd cyn i’r athletwyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau fynd i dderbyniad yn yr adeilad.

Gwahoddir y cyhoedd i ddod i wylio’r seremoni ac i groesawu eu harwyr adref. Bydd Only Men Aloud!, y côr o Gaerdydd sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth y BBC, ‘Last Choir Standing’, yn diddanu’r dorf wrth ddisgwyl i’r athletwyr gyrraedd.

Meddai’r Arglwydd Elis-Thomas: ‘Rydw i, fel gweddill pobl Cymru, yn falch iawn o gyflawniad ein hathletwyr Olympaidd yng Ngemau Beijing, ac y mae’n anrhydedd i’w croesawu i’r Senedd i gydnabod eu llwyddiant. Rwy’n gobeithio y bydd pobl Cymru yn dod i’w croesawu adref ac i ddathlu’r llwyddiant gyda ni.’