Y Llywydd i groesawu’r Arglwydd Wallace i’r Senedd
28 Medi 2010
Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Wallace o Tankerness QC i’r Senedd heddiw (28 Medi) ar ei ymweliad â Chymru.
Mae’r Arglwydd Wallace yn wleidydd o’r Alban, yn Arglwydd am oes yn Nhy’r Arglwyddi ac yn Adfocad Cyffredinol yr Alban.
Bu’n arweinydd ar Ddemocratiaid Rhyddfrydol yr Alban, yn Aelod Seneddol dros Ynysoedd Erch a Shetland, yn Aelod o Senedd yr Alban dros Ynysoedd Erch ac ef oedd Dirprwy Brif Weinidog cyntaf yr Alban.
Yn ystod ei ymweliad, bydd yr Arglwydd Wallace yn cael taith dywysedig o amgylch y Senedd gan y Llywydd. Yn rhinwedd ei brif swydd fel Adfocad Cyffredinol yr Alban, bydd hefyd yn cyfarfod ag arweinwyr y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Cwnsler Cyffredinol John Griffiths AC.
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad: “Mae’n bleser cael croesawu’r Arglwydd Wallace ar ei ymweliad cyntaf â Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
“Mae bob amser yn anrhydedd cael dangos sut yr ydym yn gweithio yma yng Nghymru, ac rwy’n gobeithio y bydd yr ymweliad o fudd iddo.”