Y Llywydd i gynnal cynhadledd ar Lywodraethu Cymru yn y Dyfodol

Cyhoeddwyd 19/06/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd i gynnal cynhadledd ar Lywodraethu Cymru yn y Dyfodol

Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cynnal cynhadledd undydd ar Lywodraethu Cymru yn y Dyfodol yn y Senedd ddydd Iau 21 Mehefin. Bydd y gynhadledd, sy’n cael ei chynnal ar y cyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r National School of Government, yn canolbwyntio ar Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ynghyd â'r ddeddfwriaeth newydd a'r ffyrdd newydd o graffu fydd yn deillio o'r Ddeddf.  Ei nod fydd rhoi cyfle i gynifer o sefydliadau â phosibl ledled Cymru gynnal trafodaeth adeiladol gydag Aelodau’r Cynulliad ar rôl y Cynulliad Cenedlaethol o ran craffu ar bolisïau a sicrhau bod y Llywodraeth yn atebol am ei gwaith. Ymhlith y siaradwyr bydd y Llywydd, arweinwyr y pleidiau aSir Jeremy Beecham, Caderiydd yr Adolygiad o'r Gwasanaethau a Ddarperir yn Lleol - -Ar Draws Ffiniau: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y cynhadledd yn gyfle i gynnal trafodaeth genedlaethol ar sut y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol newydd ddefnyddio'i bwerau newydd. Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: “Roedd etholiad mis Mai yn nodi cychwyn newydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda'i bwerau a'i gyfrifoldebau newydd. Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu cyfansoddiad y Cynulliad fel ein bod yn arfer ein pwerau deddfu newydd ac yn cyflawni'n gwaith craffu'n effeithiol. Rwy’n falch o gael trafod y mater yn y gynhadledd hon.” Mae rhagor o fanylion am y gynhadledd, ynghyd â gwybodaeth am sut i gofrestru, ar gael yn www.llywodraethucymru.org