Y Llywydd mewn digwyddiadau rhanbarthol
Mae Rosemary Butler AC yn edrych ymlaen at fynd i’r Mardi Gras yng Nghaerdydd, sef yr wyl flynyddol ar gyfer cymunedau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol Caerdydd, y penwythnos hwn. Bydd yn siarad ar y prif lwyfan ac yn cerdded o gwmpas safle’r wyl i siarad â phobl am bwerau deddfu newydd y Cynulliad Cenedlaethol ar ôl y bleidlais gadarnhaol yn y refferendwm ym mis Mawrth, ac am sut y gall pobl gymryd rhan uniongyrchol yn y broses ddeddfu.
Bydd hefyd yn hyrwyddo system ddeisebu’r Cynulliad, lle caiff pob deiseb sydd â mwy na 10 o lofnodion arni ei thrafod gan bwyllgor o Aelodau’r Cynulliad, ac yn sôn am sut mae aildrefnu pwyllgorau’r Cynulliad wedi gwneud y broses yn fwy hygyrch.
Mae’r Llywydd wedi ymweld â nifer o sioeau a gwyliau drwy’r haf, gan fynd â gwaith y Cynulliad i gymaint o gymunedau yng Nghymru â phosibl.
Yr wythnos ddiwethaf (25 Awst), parhaodd Bws Allgymorth y Cynulliad Cenedlaethol ar ei daith ledled Cymru, gan fynd i Sioe Mynwy. Ymwelodd y Llywydd â’r bws, lle bu’n cyfarfod â newyddiadurwyr o’r Monmouthshire Beacon i drafod presenoldeb y Cynulliad mewn digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol, gan ddod â’r Cynulliad yn agosach at bobl Cymru, ac i egluro rôl y Llywydd a phroses ddeisebu’r Cynulliad.
Aeth y Llywydd ymlaen i gwrdd â nifer o’r sefydliadau a oedd yno, gan gynnwys Coleg Gwent, Cancer Research UK, Ambiwlans Awyr Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Gwent, Clwb Rotari Mynwy, y South Wales Argus, ac Undeb Amaethwyr Cymru.
Y Llywydd, Rosemary Butler AC, gyda Chris Knight o Gampws Brynbuga Coleg Gwent
Y Llywydd, Rosemary Butler AC, gyda chynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru
Y Llywydd, Rosemary Butler AC, gyda Nicola Stone, Martin Wright ac Alex Rees o Ymddiriedolaeth Natur Gwent
Y Llywydd, Rosemary Butler AC, gyda Jenny Edmonds, Anne Gibson a Kearon Jenkins o Cancer Research UK
Y Llywydd, Rosemary Butler AC, gyda Jennifer a Michael Green o Glwb Rotari Mynwy
Y Llywydd, Rosemary Butler AC, gyda chynrychiolydd o’r South Wales Argus