Y Llywydd yn canmol cynllun heddlu’r Cynulliad
Mae Llywydd y Cynulliad heddiw wedi canmol cynllun sy’n hyrwyddo mwy o gysylltiad rhwng yr heddlu ac Aelodau’r Cynulliad, fel y mae’r Cynulliad yn symud tuag at gael mwy o bwerau ym maes cyfiawnder cymdeithasol.
Roedd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn siarad mewn digwyddiad i hyrwyddo Cynllun Heddlu’r Cynulliad, sy’n annog Aelodau’r Cynulliad i weithio’n agos ochr yn ochr â heddlu lleol a staff cymorth yr heddlu er mwyn gweld sut mae meysydd plismona’n dod at ei gilydd yng Nghymru. Bu Richard Brunstrom, Prif Gwnstabl Gogledd Cymru hefyd yn siarad yn y digwyddiad.
O dan y cynllun sy’n cael ei redeg gan Swyddfa Gyswllt yr Heddlu yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, rhoddir Aelodau’r Cynulliad mewn cysylltiad â chynrychiolydd lleol o’r heddlu er mwyn cael golwg fanwl ar amryw o feysydd yn cynnwys plismona’r gymdogaeth, cyfiawnder troseddol, gwyddoniaeth fforensig, ymateb arfog a phlismona’r ffyrdd,
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae Cynllun Heddlu’r Cynulliad yn rhoi cyfle delfrydol i Aelodau’r Cynulliad gael mewnwelediad gwerthfawr i waith yr heddlu drwy gael profiad ymarferol, gan weithio ochr yn ochr â dynion a merched sy’n plismona’n cymunedau. Maent felly’n dysgu am yr anawsterau a’r heriau sy’n eu hwynebu o ddydd i ddydd. Gall Aelodau’r Cynulliad weld, yn uniongyrchol, effeithiau ymarferol unrhyw newidiadau ym maes polisi a deddfwriaeth, yn ogystal â gallu datblygu’u barn ar ba newidiadau pellach a all fod eu hangen.
“Yn sicr, rwy’n gwerthfawrogi’r cysylltiad agos a sefydlwyd rhwng Aelodau’r Cynulliad yn eu swyddfeydd etholaethol â’r Heddweision Cymunedol sy’n gwasanaethu’r rhannau o ardal Heddlu Gogledd Cymru lle rwy’n byw ac yn gweithio. Bydd cyfnewid barn fwy ffurfiol rhwng swyddogion yr heddlu, staff cymorth yr heddlu ac Aelodau’r Cynulliad yn ddefnyddiol fel y bydd Gweinidogion Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol yn chwarae mwy o ran ym meysydd allweddol cyfiawnder cymdeithasol a maes ehangach gweinyddu cyfiawnder ei hunan, fel y down â darnau’r jig-so heriol a chymhleth hwn ynghyd.”
Yn yr un digwyddiad, cyflwynodd y Llywydd dystysgrifau i ddau Aelod Cynulliad, Jeff Cuthbert a Janet Ryder, sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun.