Y Llywydd yn cydnabod cyfraniad Bevin Boys Cymru i'r ymdrechion rhyfel

Cyhoeddwyd 16/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd yn cydnabod cyfraniad Bevin Boys Cymru i'r ymdrechion rhyfel

16 Gorffennaf 2013

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi croesawu Bevin Boys de Cymru i'r Senedd.

Estynnodd gwahoddiad iddynt i'r Cynulliad i gydnabod eu cyfraniad i ymdrech y rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Dywedodd y Llywydd: "Rhoddodd bron i 48,000 o ddynion wasanaeth hanfodol ym mhyllau glo Cymru a gweddill y DU yn ystod y rhyfel, ond prin iawn y cafodd y gwasanaeth hwnnw ei gydnabod.

"Ac ni chafodd lawer ohonynt eu rhyddhau o'r gwasanaeth hwnnw am flynyddoedd ar ôl i'r rhyfel ddod i ben ym 1945.

"I rai, roedd stigma i'r ffaith nad oeddynt wedi mynd i ymladd dramor i faes y gad.

"Fe wnes i wahodd y rhai sydd ar ôl o Bevin Boys Cymru yma heddiw i gydnabod yr aberth a wnaethant wrth weithio, yn aml o dan amodau peryglus, i wneud gwaith cefnogi hanfodol i ymdrech y rhyfel.

"Roedd eu hymdrechion hwy yr un mor bwysig o ran amddiffyn rhag Naziaid yr Almaen ag yr oedd ymdrechion y rhai a frwydrodd yn y rheng flaen, ac ni ddylem fyth anghofio hynny."

Rhwng 1943 a diwedd y rhyfel, amcangyfrifir bod un o bob deg o'r milwyr gorfodol wedi cael eu hanfon i weithio yn y pyllau glo.