Y Llywydd yn cyflawni’i haddewid i annog mwy o fenywod i fywyd cyhoeddus
18 Ebrill 2013
Bydd nifer o fenywod amlwg o bob cefndir mewn bywyd cyhoeddus yn gwneud areithiau allweddol mewn sesiynau a drefnwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r sesiynau gyda ffigurau cyhoeddus yn ganlyniad i’r mandad a roddwyd i’r Llywydd, Rosemary Butler AC, i annog mwy o fenywod i gymryd rhan mewn cymdeithas ddinesig. Gellir gwneud hyn drwy fod yn llywodraethwyr ysgol, yn aelodau o fyrddau cyrff cyhoeddus, yn Ynadon neu wneud swyddi eraill mewn bywyd cyhoeddus.
Rhoddwyd y mandad iddi yn y Gynhadledd Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus a gynhaliwyd yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Tachwedd.
Nododd y Llywydd nifer o feysydd fel gwyddoniaeth, peirianneg a chwaraeon yn arbennig lle mae menywod heb gynrychiolaeth ddigonol.
Cynhaliwyd sesiynau ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth, neu’n agos at y dyddiad hwnnw, gyda’r gwyddonydd blaenllaw y Farwnes Susan Greenfield a phennaeth Chwaraeon Cymru, yr Athro Laura McAllister.
Cafodd ardaloedd eraill fel y gyfraith, hawliau sifil a’r cyfryngau bellach eu nodi fel meysydd lle mae menywod yn wynebu rhwystrau ac ymhlith siaradwyr y dyfodol bydd yr ymgyrchydd hawliau sifil Shami Chakrabarti ar 2 Gorffennaf, a’r ddarlledwraig a’r newyddiadurwraig Janet Street Porter ar 10 Hydref.
Ffigurau eraill a fydd yn cymryd rhan yn y sesiynau fydd y Paralympig wych o Gymru Tanni Grey-Thompson, a’r cyn Droellwr Disgiau ar Radio 1, Bethan Elfyn.
"Un o’r prif fandadau a roddwyd i mi gan y gynhadledd Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus oedd i ddarparu mwy o fodelau rôl a chyfleoedd mentora i fenywod," meddai’r Llywydd.
"Credaf mai rhan o’r broses yw dangos i fenywod ledled Cymru y gallant gyrraedd y brig yn eu maes a bod yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.
"Dyna pam bod y Cynulliad Cenedlaethol yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau lle bydd menywod amlwg yn rhannu eu profiadau â ni, ac yn dweud sut y gallwn fynd i’r afael â rhwystrau sy’n atal menywod rhag cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.
“Ond nid yw ein hymrwymiad yn dod i ben gyda’r sesiynau hyn. Bydd y Cynulliad yn lansio porth newydd ar y we yn fuan.
"Bydd y porth yn gweithredu fel siop un alwad ar gyfer menywod sy’n dymuno canfod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt mewn bywyd cyhoeddus, sut i wneud cais amdanynt, a sut i elwa o brofiadau sy’n cael eu rhannu gan fenywod eraill."
Bydd tocynnau ar gyfer y digwyddiad Shami Chakrabarti, ar gael o ganol mis Mai drwy ffonio llinell archebu’r Cynulliad ar 0845 010 5500 neu anfon e-bost archebu@cymru.gov.uk.