Y Llywydd yn dymuno llwyddiant i dîm rygbi Cymru mewn gêm dyngedfennol
14 Mawrth 2013
Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cefnogi tîm rygbi Cymru yn ei gais i guro Lloegr yn y gêm a fydd yn penderfynu pwy fydd enillwyr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ddydd Sadwrn (16 Mawrth).
Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm, a rhaid iddynt guro'r gwrthwynebwyr o wyth pwynt i ennill y Bencampwriaeth, am yr ail flwyddyn yn olynol.
Dywedodd Rosemary Butler, y Llywydd: “Yn sgîl canlyniad gêm Lloegr yn erbyn yr Eidal yr wythnos diwethaf, bydd uchafbwynt arbennig iawn i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.”
“Cafodd tîm Cymru ddechrau digon araf i'w ymgyrch, ond mae wedi gwella ym mhob gêm, nes cyrraedd y sefyllfa hon.
“Pob dymuniad da i Rob Howley a'r tîm, a gobeithio y byddwn yn dathlu llwyddiant arall yn y byd rygbi yng Nghymru nos Sadwrn.”