Y Llywydd yn dymuno pob lwc i aelodau tîm Cymru wrth iddynt ddechrau cystadlu am fedalau yng Ngemau'r Gymanwlad

Cyhoeddwyd 22/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Bydd Gemau'r Gymanwlad Glasgow 2014 yn dechrau ar 23 Gorffennaf gyda mwy na 230 o athletwyr o Gymru yn cystadlu am fedal aur.

Byddant yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon, o nofio i gystadleuthau trac, o focsio i hoci, ac o rygbi i bêl-rwyd.

"Roedd perfformiad athletwyr o Gymru yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain yn gyflawniad rhagorol," meddai Fonesig Rosemary Butler AC.

"Bydd llawer ohonynt nawr yn gwisgo'r fest goch ac yn cystadlu i Dîm Cymru.

"Hoffwn achub ar y cyfle hwn, ar ran holl Aelodau'r Cynulliad a'r staff, i ddymuno pob hwyl i gystadleuwyr o Gymru wrth iddynt gystadlu am fedalau aur."

 

Ffotograff gan Tîm Cymru