Y Llywydd yn llongyfarch tîm pêl-droed Casnewydd ar ei ddyrchafiad i'r Gynghrair
7 Mai 2013
Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi llongyfarch tîm pêl-droed Casnewydd ar gael dyrchafiad i'r Gynghrair Pêl-droed yn ei gêm ailgyfle yn Wembley yn erbyn Wrecsam.
Dywedodd y Llywydd “Roedd hi'n wych cael dau dîm o Gymru yn y gêm derfynol. Roedd yn ddyddiad allweddol arall yn y flwyddyn orau erioed i bêl droed Cymru,”
“Yn anffodus, roedd yn rhaid i un tîm golli'r cyfle i gael dyrchafiad, ond rwy'n dymuno'n dda i dîm pêl-droed Casnewydd yn y Gynghrair y tymor nesaf.
“Mae'n wych i'w dilynwyr ac yn newyddion grêt i bêl droed Cymru.”