Y Llywydd yn noddi arddangosfa ‘Hanes Cymru a chaethwasiaeth’

Cyhoeddwyd 13/10/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd yn noddi arddangosfa ‘Hanes Cymru a chaethwasiaeth’

13 Hydref 2009

Caiff y rhan a chwaraeodd Cymru i ddileu’r fasnach gaethweision ei   ddatgelu mewn arddangosfa newydd sy’n dod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

O ddydd Llun 19 Hydref ymlaen, cynhelir arddangosfa yn y Senedd a fydd yn dwyn y teitl ‘Chwerwfelys: siwgr, te a chaethwasiaeth’, sy’n olrhain hanes y rôl a chwaraeodd Cymru mewn caethwasiaeth a’r broses o’i wahardd, yn y pen draw.

Trefnir y digwyddiad gan Ymddiriedolaeth Gerddi'r Agoriad. Mae’n rhan o Fis Hanes Pobl Dduon a gynhelir bob blwyddyn ym mis Hydref.

“Yn 2007, nododd y Cynulliad 200 mlwyddiant dileu caethwasiaeth. Ni ddylwn aros am ganrif arall cyn nodi’r achlysur hwn eto. Dyma pam mae mis Hanes Pobl Dduon ac arddangosfeydd fel hon yn bwysig,” meddai yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r arddangosfa ‘Chwerwfelys’ yn ddiweddglo i ddwy flynedd o waith gan Ymddiriedolaeth Gerddi'r Agoriad a dywysodd grwpiau o amgylch cartrefi a gerddi Cymru gan egluro’r cysylltiadau â’r fasnach gaethweision.

Ariennir yr ymddiriedolaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac fe’i sefydlwyd am y tro cyntaf yn 2000.

Yn y pen draw, gwaharddwyd caethwasiaeth yn y Deyrnas Unedig gan  Ddeddf y Fasnach Gaethweision 1807.