Y Llywydd yn rhoi mentora ar frig yr agenda yn Uwchgynhadledd Menywod Cymru

Cyhoeddwyd 21/03/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd yn rhoi mentora ar frig yr agenda yn Uwchgynhadledd Menywod Cymru

21 Mawrth 2013

Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sicrhau bod modelau rôl ar gyfer menywod yn flaenoriaeth yn ei haraith yn Uwchgynhadledd Menywod Cymru ddydd Iau, 21 Mawrth.

Bydd Uwchgynhadledd Menywod Cymru, a drefnwyd gan Fenywod yn Gwneud Gwahaniaeth, yn cael ei chynnal yn adeilad hanesyddol y Pierhead rhwng 10 y bore a 3 o'r gloch y prynhawn.

Mewn araith gerbron yr uwchgynhadledd, bydd y Llywydd yn nodi pam y dylai mentora chwarae rôl mor bwysig i oresgyn y rhwystrau sydd i fenywod gyfranogi mewn bywyd cyhoeddus.

Mae'r Llywydd wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn teithio llawer yng Nghymru yn gwrando ar fenywod fel rhan o'i rhaglen 'Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus'.

Roedd cynhadledd genedlaethol yn y Cynulliad ym mis Tachwedd yn un o uchafbwyntiau'r rhaglen honno.

Yn ei haraith, bydd y Llywydd yn dweud: “Bûm yn chwilio am atebion i fynd i'r afael â'r rhwystrau gwirioneddol a'r rhwystrau ymddangosiadol sydd i gyfranogiad menywod mewn bywyd cyhoeddus.

“Un o'r materion allweddol a nodwyd wrthyf yn fy holl gyfarfodydd a digwyddiadau, yw pa mor bwysig yw modelau rôl da yn hyn o beth dros y 12 mis nesaf.

“Rwyf eisoes wedi dechrau cynnal cyfres o ddarlithoedd gan fenywod ysbrydoledig sy'n llwyddo mewn meysydd lle yr oedd dynion yn flaenllaw ynddynt yn draddodiadol.

“Croesewais y Farwnes Susan Greenfield yn ddiweddar, a rhoddodd hi sgwrs am fenywod ym maes gwyddoniaeth, a oedd yn ysbrydoliaeth i’r gynulleidfa.”

Ar ôl cael gorchymyn yn y gynhadledd “Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus” yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Tachwedd, ysgrifennodd y Llywydd at arweinyddion y pedair plaid wleidyddol yng Nghymru yn gofyn iddynt roi ystyriaeth i'r nifer llai a llai o fenywod sy'n Aelodau'r Cynulliad, a sut y byddai modd i bob plaid annog mwy o fenywod i fod yn ymgeiswyr.

Gofynnwyd iddi hefyd ymchwilio sut y byddai modd datblygu rhagor o fodelau rôl a rhaglenni mentora yng Nghymru.