Ei Mawrhydi y Frenhines

Ei Mawrhydi y Frenhines

Y Llywydd yn rhoi teyrnged i'w Mawrhydi Y Frenhines

Cyhoeddwyd 08/09/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/09/2022   |   Amser darllen munud

Mae'r Llywydd wedi rhoi teyrnged i “ymrwymiad gydol oes Ei Mawrhydi Y Frenhines i wasanaeth cyhoeddus" yn dilyn y cyhoeddiad trist am ei marwolaeth.  

Wrth i'r wlad gychwyn ar gyfnod o alaru cenedlaethol, mae holl fusnes y Senedd wedi'i ohirio am y tro a caiff baneri’r Senedd eu hanner gostwng.  

Dywedodd y Llywydd, Y Gwir Anrh. Elin Jones AS:

"Gwasanaethodd Y Frenhines Elizabeth II dros y Deyrnas Unedig gydag urddas a enynnodd barch miliynau o bobl o bob cwr o'r byd. 

“Teyrnasodd yn ystod cyfnod a welodd newid cyfansoddiadol a chymdeithasol mawr yn ein gwlad. Mynychodd bob seremoni agoriadol ers sefydlu’r Senedd, sy’n adlewyrchu ei chydnabyddiaeth o gyfraniad y Senedd hon i fywyd pobl Cymru.

“Bydd Y Frenhines yn cael ei chofio am ei hymrwymiad gydol oes i wasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys hyrwyddo llawer o elusennau a sefydliadau yng Nghymru.  

"Mae’r Senedd yn anfon ei chydymdeimlad at ei theulu.”