Y Llywydd yn ymrwymo i gysylltiadau agosach â’r Cyngor Prydeinig i godi proffil y Cynulliad ar y llwyfan rhyngwladol

Cyhoeddwyd 07/12/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Y Llywydd yn ymrwymo i gysylltiadau agosach â’r Cyngor Prydeinig i godi proffil y Cynulliad ar y llwyfan rhyngwladol

7 Rhagfyr 2011

Heddiw (7 Rhagfyr), llofnododd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Rosemary Butler AC, gytundeb â’r Cyngor Prydeinig sy’n nodi’r egwyddorion a fydd yn sail i’r berthynas rhwng y Cynulliad a’r Cyngor ac sy’n amlinellu sut y bydd y ddau gorff yn cydweithio.

Pictured standing from l-r Colm McGivern – Regional Director British Council; Professor Elan Closs Stephens – Chair Wales Advisory Committee; Rebecca Matthews, Wales Director British Council; Joyce Watson AM; David Melding AM, Deputy Presiding Officer   Front from l-r Presiding Officer, Rosemary Butler AM, and Sir Vernon Ellis, Chair of the British Council.

Mae’r concordat yn nodi y bydd y Cynulliad Cenedlaethol a’r Cyngor Prydeinig yn cydweithio:

  • i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol;

  • i sicrhau bod gwell dealltwriaeth o berthnasedd gwaith y Cyngor Prydeinig yng Nghymru;

  • i gryfhau ac ehangu’r amrywiaeth o weithgareddau a ddaw a budd i’r ddau gorff, gyda phwyslais penodol ar greu cyfleoedd i bobl ifanc;

  • i hyrwyddo parch, dealltwriaeth a chytgord rhwng Cymru a gwledydd eraill ledled y byd.

Dywedodd Mrs Butler: “Mae hwn yn gam arwyddocaol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Bydd perthynas waith gref a ffrwythlon rhwng y Cynulliad a’r Cyngor Prydeinig yn codi proffil y Cynulliad yma ac mewn gwledydd eraill ledled y byd.

“Mae’r Cynulliad eisoes wedi cael ei ganmol am ei waith ar e-ddemocratiaeth ac ymgysylltiad â’r cyhoedd gan nifer o ddeddfwrfeydd tramor.

“Fel senedd ifanc, rydym wedi ymrwymo i ddysgu gan eraill, ond drwy godi ein proffil yn rhyngwladol, bydd cyfle hefyd efallai i seneddau eraill ledled y byd ddysgu gennym ni.”

Dywedodd Syr Vernon Ellis, Cadeirydd y Cyngor Prydeinig: “Rwyf yn falch iawn i gyd-lofnodi’r cytundeb hwn.

“Mae’n cynrychioli’r cysylltiadau sy’n cryfhau rhwng gwaith y Cyngor Prydeinig a gwaith y Cynulliad Cenedlaethol.

“Edrychwn ymlaen at ddatblygu cysylltiadau rhyngwladol yng Nghymru ac ar ei chyfer, ac i helpu Cymru i gyflwyno ei hasedau diwylliannol ac addysgol arbennig ar lwyfan y byd.