Y Llywydd yn ymuno â chyn filwyr i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol

Cyhoeddwyd 15/05/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd yn ymuno â chyn filwyr i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol

Mynychodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wasanaeth Diwrnod y Llynges Fasnachol wrth Gofeb y Llynges Fasnachol ym Mae Caerdydd, ac yna cynhaliodd dderbyniad yn y Senedd ar gyfer y rhai a fynychodd y gwasanaeth.                   Mae cysylltiadau cryf yn bodoli rhwng y Cynulliad a Chymdeithas y Llynges Fasanachol. Mae Cofeb y Llynges Fasnachol, sy’n llunio canolbwynt cofio aberth morwyr y Llynges Fasnachol a hwyliodd o borthladdoedd Cymru mewn dau Ryfel Byd, wedi’i leoli ar fonyn llechen y Senedd.  Mae’r Llywydd yn gyson wedi cefnogi gwasanaeth coffa blynyddol Cymdeithas y Llynges Fasnachol ger y gofeb.                                                                Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn hynod falch fod cofeb y llynges fasnachol mor agos i’n cartref ni ym Mae Caerdydd. Mae’n aruthrol bwysig fod gan y Cynulliad gysylltiadau agos gyda Chymdeithas y Llynges Fasnachol, gan ein bod yn cydnabod ac yn anrhydeddu’r cyfraniad mawr a wnaeth morwyr masnachol o’r ardal hon yn ystod yr ail ryfel byd.”