Y mae’r Pwyllgor Cyllid yn ymgynghori ar ei ymchwiliad i’r broses o reoli asedau
05 Rhagfyr 2012
Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ar ei ymchwiliad i’r broses o reoli asedau yng Nghymru.
Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar ddau brif faes:
Y prosesau o ran rheoli ystâd Llywodraeth Cymru ei hun; a
Y canllawiau a’r gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth Cymru o ran rheoli asedau drwy’r sector cyhoeddus yn ehangach yng Nghymru, a’i gwaith yn hyrwyddo arferion da yn hyn o beth.
Mae'r Pwyllgor am glywed barn ar gwestiynau yn cynnwys:
A yw rheoli asedau yn gysylltiedig ag amcanion polisi ac amcanion strategol ehangach, yn Llywodraeth Cymru, a thrwy’r sector cyhoeddus yn ehangach?
Pa wersi a ellir eu dysgu, neu sydd wedi’u dysgu, o arferion da yng Nghymru, neu yn rhywle arall, ar hyn o bryd, o ran y modd y gellir gwella dulliau rheoli asedau yn y sector cyhoeddus?
Pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i reoli asedau mewn modd strategol, a chyflwyno mentrau ar gyfer gwella effeithiolrwydd y dulliau o reoli asedau drwy’r sector cyhoeddus yng Nghymru?
Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: "Mae pob sefydliad sector cyhoeddus yn berchen ar ystod o asedau neu yn eu defnyddio.
"Mae rheidrwydd arnynt oll i'w defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol i ddiwallu amcanion corfforaethol ac amcanion gwasanaeth.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n helaeth yn ei hystâd, gan gynnwys swyddfeydd newydd yn Llandudno ac Aberystwyth i wasgaru swyddi a buddion economaidd ledled Cymru.
"Rydym eisiau gweld y buddion hynny, y dystiolaeth o werth am arian, ac enghreifftiau o'r arferion gorau y mae'r Llywodraeth wedi'u dysgu oddi wrth sefydliadau sector cyhoeddus eraill ac yn rhannu â hwy."
Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu at yr ymgynghoriad naill ai e-bostio: pwyllgorcyllid@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener 11 Ionawr 2013.