Y newyddiadurwr Carole Cadwalladr i annerch y Senedd

Cyhoeddwyd 06/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2019


Carole Cadwalladr yw'r diweddaraf i'w chyhoeddi fel un o siaradwyr GWLAD: Gŵyl Cymru’r Dyfodol.

Mae’r newyddiadurwr ymchwiliol wedi ennill llawer o glod am ei gwaith, ac mi fydd hi’n cyflwyno sgwrs yn y Senedd ym Mae Caerdydd, ar ddydd Sul 29 Medi am 2.00pm, mewn sesiwn a gynhelir ar y cyd â Gŵyl y Gelli.

Mae Carole Cadwalladr yn ysgrifennu erthyglau ar gyfer papur yr Observer a bu’n ysgrifennu i’r Daily Telegraph hefyd. Daeth i sylw’r cyhoedd yn 2018 am ei gwaith yn datgelu sgandal data Facebook/Cambridge Analytics. Ers i’r stori honno dorri, mae’r hanes wedi ei adrodd yn y gyfres ddogfen The Great Hack ar Netflix ac mae hi wedi traddodi sawl sgwrs TED Talk ar y pwnc.

Magwyd Carole Cadwalladr yng Nghaerdydd, lle bu’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Radyr, cyn astudio yng Ngholeg Hertford ym Mhrifysgol Rhydychen.

Cynhelir GWLAD: Gŵyl Cymru’r Dyfodol ar 25-29 Medi a’i nod yw sbarduno sgwrs am ddyfodol Cymru o safbwynt ystod eang o bynciau; o newyddiaduraeth a'r cyfryngau, i ddiwylliant, chwaraeon, cydraddoldeb ac amrywiaeth, gwleidyddiaeth ac iaith.

Bydd GWLAD yn cynnwys sesiynau sgwrs, trafodaethau panel, areithiau, sesiynau comedi, cerddoriaeth a chelf, a bydd yn llunio rhan o raglen ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd o ddatganoli. Mae tocynnau yn rhad ac am ddim ac ar gael i'w harchebu nawr, ar wefan www.datganoli20.cymru/gwlad. Bydd rhai sesiynau'n cael eu recordio ac ar gael i’w gwylio ar-lein.
 
Meddai Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru; “Ry’ ni’n ddiolchgar iawn i Ŵyl y Gelli, un o nifer o bartneriaid yr ŵyl, am eu cyfraniad i GWLAD. Mae Carole Cadwalladr yn ymuno â’r dwsinau o leisiau yn yr 20 a mwy o sesiynau dros bum diwrnod yr ŵyl, lle byddwn, ymhlith pynciau eraill, yn trafod dyfodol newyddiaduraeth yn yr oes ddigidol ac effaith newyddion ffug. Wrth i ni nodi 20 mlynedd o ddatganoli, rwy’n siŵr y bydd sgwrs Carol yn cynnwys digon i ni gnoi cil arno.”  

Bu Carole Cadwalladr yn siarad yng Ngŵyl y Gelli eleni lle derbyniodd wobr Medal Gŵyl y Gelli am Newyddiaduraeth. Mae ganddi gasgliad helaeth o wobrau erbyn hyn, sy’n cynnwys yr Orwell Prize a’r Reporters Without Borders Award

Dywedodd Peter Florence, cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli: "Enillodd Carole Cadwalladr Fedal Newyddiaduraeth Gŵyl y Gelli 2019 am ei sylw arbennig i achosion o ddifrïo democratiaeth. Mae hi'n gwneud gwaith didwyll a gwyliadwrus wrth warchod rhyddid sylfaenol y wasg mewn gwladwriaeth fodern, ac yn gwarchod yr angen i ddwyn ein holl systemau llywodraethu i gyfrif. Rydyn ni wrth ein boddau wrth glywed ei darlith ar achlysur 20 mlynedd o ddatganoli."

GWLAD yn trafod newyddiaduraeth

Mae amserlen GWLAD yn cynnwys sawl trafodaeth am newyddiaduraeth, ac am newyddiadurwyr. Yn eu plith mae sgwrs am ddyfodol newyddiaduraeth yn yr oes ddigidol - ‘Oes angen newyddiadurwyr?’ - yng nghwmni Ciaran Jenkins o Channel 4 News, Seren Jones o BBC World Service a BBC Radio 4 a gohebydd BBC Newsbeat, Steffan Powell. 

Bydd sesiynau eraill yn ymdrin â newyddion ffug a’r cyfryngau yng nghwmni’r cyn-newyddiadurwr Guto Harri, Ruth Mosalski o Media Wales, yr Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, James Williams, Gohebydd Gwleidyddol BBC a Fay Jones o Materion Cyhoeddus Cymru. 

Gallwch bori drwy amserlen yr ŵyl ac archebu’r tocynnau ar wefan: www.datganoli20.cymru/gwlad