Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn dechrau ar ei waith drwy wrando

Cyhoeddwyd 13/07/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn dechrau ar ei waith drwy wrando

13 Gorffenaf 2011

Mae sefydliadau ffermio a sefydliadau cefn gwlad wedi cael eu gwahodd i ddweud wrth Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru beth y maent yn ei ddisgwyl gan y Cynulliad newydd.

Mae’r gwahoddiad yn rhan o ymgyrch gan y Pwyllgor i wrando ar yr holl grwpiau sy’n ymwneud â materion amgylcheddol, ffermio a chynaliadwyedd cyn iddynt lunio rhaglen waith ar gyfer y Cynulliad newydd.

Bydd y sefydliadau yn cymryd rhan yn y drafodaeth yn Sioe Frenhinol Cymru ar 19 Gorffennaf.

Bydd hyn yn dilyn cyfarfod swyddogol o’r Pwyllgor, sydd hefyd yn cael ei gynnal ar faes y Sioe Frenhinol, lle bydd yn cymryd tystiolaeth gan Alun Davies AC, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, am ei flaenoriaethau ar gyfer y Cynulliad newydd.

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: “Hanfod y pedwerydd Cynulliad yw adlewyrchu anghenion pobl Cymru yn well, yn enwedig oherwydd bod gan pwyllgorau pwnc bellach rôl ddeublyg o graffu ar bolisi yn ogystal ag ar ddeddfwriaeth.”

“Os ydym am greu Cymru gynaliadwy, lle mae ein holl amgylcheddau’n ddiogel ac yn lân i fyw ynddynt, yna mae’n rhaid i mi a fy nghyd-weithwyr wrando ar gymaint ohonoch â phosibl.

“Fodd bynnag, mae yr un mor bwysig ein bod ni, Aelodau’r Pwyllgor, yn craffu ar raglenni a pholisïau Llywodraeth Cymru, a dyna pam rydym yn cynnal sesiwn swyddogol o’r Pwyllgor gyda’r Dirprwy Weinidog.”

Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ym Mhafiliwn y Ffermwyr Ifanc ar Rhodfa K, ger y Cylch Gwartheg, lle bydd yn cymryd tystiolaeth gan y Gweinidog.

Yn syth ar ôl y cyfarfod hwnnw, bydd Aelodau’r Pwyllgor yn cymryd rhan mewn trafodaeth yn yr un lleoliad.