Y Pwyllgor Archwilio i ystyried y broblem o heintiau a gafwyd mewn sefydliadau gofal iechyd

Cyhoeddwyd 04/02/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Archwilio i ystyried y broblem o heintiau a gafwyd mewn sefydliadau gofal iechyd

Yn ei gyfarfod nesaf, bydd Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad yn derbyn tystiolaeth ar heintiau a gafwyd mewn sefydliadau gofal iechyd.

Y diffiniad o Haint a Gafwyd mewn Sefydliadau Gofal Iechyd (HAI) yw unrhyw haint a ddaw i’r amlwg 48 awr ar ôl i glaf gael ei dderbyn i’r ysbyty. Bydd y Pwyllgor yn gofyn i Ann Lloyd, pennaeth y GIG yng Nghymru, Paul Barnett, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin a Mike Simmons, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd yn y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, beth sy’n cael ei wneud yng Nghymru i fynd i’r afael â’r broblem.

Bydd yr Aelodau hefyd yn ystyried ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i adroddiad y Pwyllgor Archwilio ar Ddiogelu Arian Cyhoeddus ym Mhrosiectau LG.

Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, Bae Caerdydd, am 1pm ddydd Iau 7 Chwefror.

Rhagor o wybodaeth am y pwyllgor