Y Pwyllgor Archwilio yn cyhoeddi ei adroddiad ar brosiect adeiladu’r Senedd
Bydd Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cyhoeddi ei adroddiad ar adeiladu’r Senedd heddiw (dydd Mercher). Bu’r pwyllgor yn archwilio sut y rheolodd Lywodraeth Cynulliad Cymru'r broses o gaffael y Senedd yn dilyn ailddechrau’r prosiect yn 2002. Gellir crynhoi’r canfyddiadau a amlinellir yn yr adroddiad fel a ganlyn:
Mae’r Senedd yn adeilad eiconig sydd â rhinweddau amgylcheddol rhagorol;
Er bod y Senedd yn llawer drytach na’r hyn a ragwelwyd, gwnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i phartneriaid bob dim o fewn rheswm i gadw’r costau mor isel â phosibl. Yn wahanol i lawer o brosiectau adeiladu mawr eraill yn y sector cyhoeddus, cwblhawyd y prosiect o fewn y gyllideb yn gyffredinol er gwaetha’r heriau a gyflwynwyd gan ei fanyleb benodedig iawn a’i nodweddion unigryw;
Ymdriniwyd â’r broses gaffael yn dda mewn amgylchiadau anodd, er bod yr oedi o ran comisiynu’r system Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu arloesol wedi achosi problemau;
Cafodd y prosiect ei gyflwyno’n llwyddiannus o ganlyniad i reoli prosiect da gan dîm tra effeithiol a oedd yn rhannu’r un weledigaeth a phwrpas clir .
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, David Melding AC: “Mae’r Senedd yn adeilad eiconig yng Nghymru sydd wedi denu diddordeb aruthrol yn enwedig o ran ei nodweddion amgylcheddol a chynaliadwy arloesol. Mae’n gartref da i’r Cynulliad ac mae’n hynod o boblogaidd gydag ymwelwyr - daeth 300,000 ohonynt drwy’r drysau yn ystod y flwyddyn gyntaf y bu ar agor. Er gwaetha’r ffaith y bu problemau gyda’r prosiect gwreiddiol oherwydd bod y costau wedi cynyddu, mae’n galonogol gwybod bod mesurau cadarn yn bodoli pan ailddechreuwyd y prosiect i reoli costau a sicrhau ei fod wedi ei gwblhau i safon ddigonol. Rwyf yn falch y gall y pwyllgor roi cefnogaeth gadarnhaol i’r prosiect ac y gallwn fod yn fodlon bod gwersi wedi cael eu dysgu a fydd yn helpu prosiectau adeiladu yn y dyfodol “.
Rhagor o fanylion (ar gael yn fuan ar y dudalen yma): http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid.htm
Manylion o'r Pwyllgor: Archwilio http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third1/bus-committees-third-ac-home.htm
Nodyn i olygyddion:
Dechreuwyd cam cyntaf y prosiect ym 1997 ond fe’i ataliwyd yn 2001 oherwydd nifer o broblemau, a’r costau cynyddol oedd y broblem fwyaf arwyddocaol. Ailddechreuodd Llywodraeth Cynulliad Cymru’r prosiect yn 2002 gyda threfniadau newydd ar gyfer rheoli’r prosiect a llwybr gaffael gwahanol. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y trefniadau caffael. Agorwyd yr adeilad o’r diwedd yn 2006.
Ar sail adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru [ Swyddfa Archwilio Cymru,
y Senedd
, Mawrth 2008] clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; Dianne Bevan, Prif Swyddog Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru; David Richards, Pennaeth y Prosiect Rheolaeth mewn Iechyd; a Richard Wilson, Cyfarwyddwr Rhaglen Adeiladu’r Prosiect.