Cyhoeddwyd 01/02/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol i drafod cyfrifiad 2011
Bydd Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod cynigion ar gyfer cyfrifiad 2001 yn ystod ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 1 Chwefror 2007.
Bydd yr Aelodau hefyd yn trafod sut y gall gwasanaethau tai ddiwallu anghenion tai pobl lesbaidd, hoyw a deurywiol gyda chynrychiolwyr Stonewall Cymru ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am Gynlluniau Cydraddoldeb Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru. Yn ogystal â hyn, bydd Safonau Masnach Cymru yn rhoi cyflwyniad ar Gyswllt Defnyddwyr.
Dywedodd Janice Gregory, Cadeirydd y Pwyllgor, “Yn dilyn y teimladau cryf ymhlith pobl Cymru ynglyn â chofnodi hunaniaeth Gymreig yng Nghyfrifiad Poblogaeth 2001, cytunwyd y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod â rhan fwy ffurfiol yn y gwaith o gynllunio ffurflenni’r cyfrifiad yn y dyfodol. Mae’r cyfle hwn i drafod syniadau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ynglyn â Chyfrifiad 2001 felly’n caniatáu i’r Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio nodi unrhyw feysydd a allai greu problemau a dylanwadu ar raglen ymchwil a datblygu cwestiynau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.”
Caiff y cyfarfod ei gynnal yn y Senedd o 9.30am tan 12.00pm.
Manylion llawn a’r agenda
I archebu sedd, ffoniwch 0845 010 5500 neu anfonwch e-bost archebu@wales.gsi.gov.uk
Rhowch wybod i’r swyddfa archebu os oes gennych unrhyw anghenion arbennig.