Cyhoeddwyd 24/01/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal i drafod gwasanaethau ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr
Bydd Pwyllgor Cyfle Cyfartal Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn derbyn diweddariad gan Lywodraeth y Cynulliad ar Wasanaethau a ddarperir i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher, Ionawr 24
ain.
Yr oedd adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd yn 2003 yn cynnwys nifer o argymhellion i Lywodraeth y Cynulliad a bydd aelodau’n awr yn ystyried y cynnydd a wnaethpwyd i weithredu’r argymhellion hyn.
Bydd aelodau hefyd yn ystyried perthynas y Pwyllgor gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a’r cynnydd a wnaethpwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i weithredu ei Strategaeth Gofal Plant. Hefyd ar yr agenda mae’r diweddaraf ar bolis¿au, rhaglenni a mentrau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid ac ar gynigion ar gyfer Cyfrifiad 2011
Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd rhwng 9.30am a 12.30pm.
Manylion llawn ac agenda
I archebu sedd ffoniwch 0845 010 5500 neu e-bostiwch archebu@cymru.gsi.gov.uk
Rhowch wybod i’r swyddfa archebu os oes gennych unrhyw anghenion arbennig os gwelwch yn dda.