Y Pwyllgor Cyllid i lansio ymchwiliad i Bartneriaethau Cyhoeddus - Preifat

Cyhoeddwyd 20/09/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Y Pwyllgor Cyllid i lansio ymchwiliad i Bartneriaethau Cyhoeddus - Preifat

Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol wedi cytuno ar y cylch gorchwyl ar gyfer ei ymchwiliad i’r defnydd o Bartneriaethau Cyhoeddus – Preifat (yn cynnwys y cynllun Menter Cyllid Preifat) heddiw. Mae’r Pwyllgor am ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatblygu mwy o brosiectau sector cyhoeddus yng Nghymru, sy’n cynnwys prosiectau ysgolion ac ysbytai, gan ddefnyddio arian preifat.   Cytunodd y Pwyllgor i edrych yn fanwl ar y cwmpas ar gyfer defnyddio arian preifat ar gyfer prosiectau sector cyhoeddus gan gyfeirio’n arbennig at:
  1. Y manteision, y costau a’r risgiau posibl a all fod ynghlwm â hyn;
  2. Unrhyw newidiadau polisi (i gael gwared ar rwystrau neu i roi rheolaeth) y gall fod eu hangen i sicrhau’r canlyniad gorau posibl;
  3. Canllawiau ymarferol i alluogi’r sector cyhoeddus i sicrhau’r trefniadau mwyaf manteisiol o fewn y fframwaith polisi y cytunwyd arno.
Dywedodd Alun Cairns AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rydym yn edrych ar hyn yn gwbl wrthrychol. Rhan bwysig o gylch gwaith y Pwyllgor yw craffu ar bolisïau Llywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn rhoi gwerth am arian i’r trethdalwr. Mae’n briodol iawn ein bod yn ystyried a ddylid defnyddio mwy o bartneriaethau cyhoeddus - preifat yng Nghymru. Byddwn yn edrych yn fanwl ar yr holl dystiolaeth cyn gwneud ein hargymhellion.” Bydd y Pwyllgor yn ceisio tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig gan bartïon sydd â diddordeb. Caiff cynghorydd arbenigol ei benodi hefyd i helpu’r Pwyllgor gyda’r ymchwiliad. Mwy o fanylion am y Pwyllgor