Y Pwyllgor Cynaliadwyedd i graffu ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth

Cyhoeddwyd 12/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Y Pwyllgor Cynaliadwyedd i graffu ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth

Yn ei gyfarfod nesaf, ddydd Iau 15 Tachwedd, bydd Pwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad yn craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru

Bydd Jane Davidson, Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd, yn y cyfarfod i ateb cwestiynau am y gyllideb a bydd yr Aelodau hefyd yn trafod adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig wedi iddo graffu ar y gyllideb yn ei gyfarfod yr wythnos diwethaf.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn parhau â’i ymchwiliad i Leihau Gollyngiadau Carbon yng Nghymru, gan gymryd tystiolaeth gan Jocelyn Davies AC, y Dirprwy Weinidog dros Dai ac yn trafod papur cwmpasu’n ymwneud â’r adran sy’n  rhoi sylw i drafnidiaeth.

Caiff y cyfarfod ei gynnal am 9.30am ddydd Iau 15 Tachwedd yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd, Bae Caerdydd.

Rhagor fanylion am y Pwyllgor a’i ymchwiliad os ewch i: