Y Pwyllgor Cynaliadwyedd yn herio Llywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu ar unwaith i leihau allyriadau carbon

Cyhoeddwyd 12/03/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Cynaliadwyedd yn herio Llywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu ar unwaith i leihau allyriadau carbon

Mae Pwyllgor Cynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi amlinellu heddiw (ddydd Mercher 12 Mawrth) ei brif argymhellion ar gyfer lleihau allyriadau carbon trafnidiaeth yng Nghymru.  

Mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i Leihau Allyriadau Carbon yng Nghymru, yn craffu ar gyfraniad Llywodraeth Cynulliad Cymru tuag at gyrraedd targedau’r DU o ran lleihau allyriadau carbon a’i chynigion ar gyfer cyrraedd y targed a amlinellir yn nogfen Cymru’n Un, sef lleihad mewn allyriadau carbon sydd gyfwerth â 3%. Mae ail ran yr ymchwiliad, a gyhoeddir heddiw, yn ymdrin â lleihau allyriadau carbon trafnidiaeth.

Mae’r adroddiad yn cynnig pedwar prif argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru, sef:

  1. Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddangos arweiniad llawer mwy pendant, drwy osod lleihau allyriadau carbon wrth wraidd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a chynyddu canran y gyllideb drafnidiaeth sy’n cael ei gwario ar drafnidiaeth gynaliadwy o 50 y cant i 70 y cant, yn unol â’r hyn sydd yn digwydd yn yr Alban.

  2. Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cynnwys amcanion penodol a mesuradwy ar gyfer torri allyriannau carbon. Dylai hefyd sicrhau bod digon o arian yn cael ei roi i’r Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol fel bod modd iddynt gyflawni’r amcanion hyn.

  3. Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygu’r defnydd a wneir o Gyfarwyddyd Gwerthuso Cludiant Cymru (WelTAG) ar fyrder i sicrhau mai lleihau allyriadau yw’r prif amcan wrth asesu prosiectau.

  4. Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gynnal cynllun peilot yng Nghymru wedi’i seilio ar y cynllun TravelSmart a gynhaliwyd gan Sustrans er mwyn asesu’r effaith y byddai’n ei gael cyn ystyried cyflwyno’r cynllun drwy Gymru gyfan.

Dywedodd Mick Bates AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae pobl yng Nghymru a thu hwnt yn dechrau sylweddoli pa mor bwysig ydyw ein bod yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn gweld y rôl y gallant hwy fel unigolion ei chwarae i gyflawni’r amcan hwn.  

“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon mewn meysydd lle mae’r pwerau wedi’u datganoli iddi. Gyda hyn mewn golwg cytunodd y Pwyllgor mai ei brif flaenoriaeth bydd archwilio perfformiad Cymru o ran lleihau allyriadau carbon yng nghyswllt targedau cenedlaethol a rhyngwladol.  

“Yn ein hail adroddiad ar leihau allyriannau carbon yng Nghymru, rydym yn ystyried allyriadau carbon trafnidiaeth. Rydym wedi casglu tystiolaeth gan ystod eang o sefydliadau. Mae’r dystiolaeth yn cynrychioli amrywiaeth helaeth o safbwyntiau ac rydym yn hyderus bod y wybodaeth yn ffynhonnell gadarn y gallwn seilio ein hargymhellion arni. Er bod yr argymhellion hyn yn targedu Llywodraeth Cynulliad Cymru’n bennaf, rydym yn gobeithio y bydd unigolion yn eu hystyried wrth iddynt geisio lleihau allyriadau carbon.”

Yn ystod y cyfnod nesaf bydd ymchwiliad y Pwyllgor yn ymdrin â lleihau allyriadau carbon yn y sector diwydiant ac mewn cyrff cyhoeddus.

Yr Adroddiad