Y Pwyllgor Deisebau – dim tystiolaeth gymhellol bod y Fyddin yn targedu ysgolion mewn ardaloedd tlawd

Cyhoeddwyd 19/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/07/2015

​Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol wedi adrodd ynghylch  deiseb a gyflwynwyd gan Gymdeithas y Cymod, a oedd yn galw am beidio â chaniatáu i'r lluoedd arfog fynd i ysgolion i recriwtio.

Roedd y Pwyllgor yn cydymdeimlo â'r pryderon a godwyd gan y ddeiseb, ond canfu:

  • nad oedd dim tystiolaeth gymhellol fod y lluoedd arfog yn targedu ysgolion mewn ardaloedd o amddifadedd mawr yn fwriadol;
  • nid oedd y lluoedd arfog yn croesi'r llinell o ran rhoi gwybod i ddisgyblion am ddewisiadau gyrfa posibl, a mynd ati i recriwtio disgyblion; ac
  • y gallai atal y lluoedd rhag ymweld ag ysgolion fod yn anfantais i rai pobl ifanc, gan gynnwys rhai o gefndiroedd llai cefnog, a'u hatal rhag cael gwybodaeth am yrfaoedd a hyfforddiant o ansawdd uchel.  

Er gwaethaf hyn, cydnabu'r Pwyllgor bod cyflogaeth yn y lluoedd arfog yn wahanol i'r rhan fwyaf o swyddi eraill, ac y dylai ymweliadau ag ysgolion gael eu trin yn fwy gofalus nag ymweliadau gan gyflogwyr eraill. Mae angen i ddisgyblion a rhieni gael gwybodaeth lawn am natur y swydd, a dylid cael trafodaeth agored a gonest gyda disgyblion am yr hyn y mae'r lluoedd arfog yn ei wneud. Mae'r Pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu canllawiau, i sicrhau bod ymweliadau gan y lluoedd arfog yn cael eu cynnal mewn amgylchedd gwybodus. 

Er nad oedd dim tystiolaeth gymhellol bod y lluoedd arfog yn targedu ysgolion mewn ardaloedd tlotach, mae nifer fawr o ymweliadau â'r ysgolion hyn. Dywedodd William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Ni chanfuwyd dim tystiolaeth bod y fyddin yn targedu ysgolion mewn ardaloedd o amddifadedd yn fwriadol. Ceir tystiolaeth, fodd bynnag, bod nifer anghymesur o ymweliadau ag ysgolion yn yr ardaloedd hynny. Efallai bod nifer o resymau am hyn, felly rydym yn credu ei bod yn bwysig bod rhagor o waith ymchwil yn cael ei wneud i edrych ar y rhesymau. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynnal rhagor o ymchwil yn hyn o beth."

"Er nad yw ein hargymhellion yn gweithredu'n llwyr yn y modd y byddai'r deisebwyr wedi'i hoffi, rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am gyflwyno'r ddeiseb. Mae wedi codi cwestiwn teg iawn ynghylch recriwtio pobl ifanc gan y lluoedd arfog. Rydym yn deall eu pryderon, ac yn cytuno bod angen gwyliadwriaeth barhaus er mwyn sicrhau nad yw'r rôl gyfiawn o roi gwybod i ddisgyblion am waith a rôl y lluoedd arfog yn dod yn gyfrwng recriwtio plaen. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod achos dilys wedi'i gyflwyno dros wahardd y lluoedd arfog yn llwyr o ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd."

Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi cyhoeddi ei adroddiad terfynnol, Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn ysgolion.pdf (PDF, 372KB)