Y Pwyllgor Deisebau’n clywed bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn bwriadu gwrthod cais i ryddhau carthion i Nant Cylla.
Ddoe, cymerodd Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru dystiolaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd mewn perthynas â’r ddeiseb yn erbyn cais Redrow Homes i ryddhau carthion i Nant Cylla yn Ystrad Mynach. Yn ystod y cyfarfod, dywedodd Gareth O'Shea, Dai Walters a Rob Whittaker o Asiantaeth yr Amgylchedd wrth Aelodau’r Cynulliad fod yr Asiantaeth yn bwriadu gwrthod y cais, yn unol â’i pholisi arferol.
Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan ddeisebwyr mewn perthynas â Phwll Nofio a Chanolfan Hamdden Gogledd Tor-faen, gan Blaenavon Leisure and Swimming Troubleshooters (BLAST). Yn dilyn y cyflwyniad gan Mrs Claire Higgins, Mr Gary Philips a Mr John Bevan, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Rhodri Glyn Thomas AC, y Gweinidog Treftadaeth, ac at Leighton Andrews AC, Y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, i holi a fyddai arian ar gael o dan fenter Blaenau’r Cymoedd ar gyfer cynigion y deisebwyr, ac i ofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen beidio â chymryd unrhyw gamau nes bod y pwyllgor wedi cael cyfle i drafod ymateb y Gweinidogion.
Trafodwyd hefyd ddeiseb newydd gan y Gymdeithas Frenhinol Cemeg Frenhinol yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i benodi Prif Gynghorydd Gwyddonol ar unwaith a chytunodd y pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cynulliad Cymru i holi pam fod argymhelliad Pwyllgor Datblygu Economaidd yr Ail Gynulliad, sef y dylid penodi Prif Gynghorydd Gwyddoniaeth, wedi’i wrthod.
Cafodd y Pwyllgor wybod hefyd am hynt deisebau blaenorol: cytunodd yr Aelodau i wahodd Ysgol Gyfun Garth-Olwg i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf mewn perthynas â’u deiseb yn erbyn newid enw’r ysgol o Ysgol Gyfun Rhydfelen; ac mewn perthynas â’r ddeiseb ynghylch Tir y Miners’ Welfare, Ty Du, Nelson cytunodd i holi a allai tir sy’n eiddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru gael ei drosglwyddo‘n ôl i berchnogaeth y gymuned a chael ei ystyried yn erbyn meini prawf ‘galw i mewn’.
Rhagor o wybodaeth am y pwyllgor deisebau