Y Pwyllgor Deisebau’n gwrando ar bryderon cleifion mewn ysbyty ym Merthyr Tudful

Cyhoeddwyd 20/01/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Deisebau’n gwrando ar bryderon cleifion mewn ysbyty ym Merthyr Tudful

20 Ionawr 2012

Bu aelodau o Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwrando ar bryderoncleifion yn Uned Arennol Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.

Trefnwyd yr ymweliad wedi i ddeiseb â 1,150 llofnod ddod i law’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu uned newydd ar gyfer y nifer cynyddol o gleifion sydd angen triniaeth ddialysis.

Bu i Aelodau’r Cynulliad gwrdd â’r prif ddeisebwr, Robert Kendrick, o Dredegar Newydd, cleifion a staff yr Uned Arennol a Chadeirydd a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm Taf ddydd Iau (19 Ionawr).

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, William Powell AC: “Mae’r Pwyllgor o’r farn ei fod yn hanfodol cael profiad uniongyrchol o’r materion y mae deisebwyr eisiau i ni eu harchwilio, pryd bynnag fo modd,”

“Roedd yr ymweliad ag Uned Arennol Ysbyty’r Tywysog Siarl yn addysgiadol iawn. Hoffwn ddiolch i’r cleifion, y staff a Bwrdd Iechyd Cwm Taf am gwrdd â ni.”

“Roedd ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i gwrdd â’r fforum cleifion i drafod y mater hwn yn arwyddocaol iawn, a byddwn yn dilyn y datblygiadau i weld sut aeth y trafodaethau.

“Yn y cyfamser, bydd yr wybodaeth y bu i ni gasglu ar ein hymweliad yn llywio ein trafodaethau ar y ddeiseb hon.”