Y Pwyllgor Diwylliant i drafod Polisïau'n ymwneud â'r Celfyddydau

Cyhoeddwyd 01/02/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Y Pwyllgor Diwylliant i drafod Polisïau'n ymwneud â'r Celfyddydau

1 Chwefror 2006

Bydd Pwyllgor Diwylliant y Gymraeg a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal nifer o sesiynau i graffu ar bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon. Bydd y sesiwn gyntaf, ar bolisïau'n ymwneud â'r Celfyddydau yn cael ei chynnal yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor ddydd Mercher, 1 Chwefror. Cynhelir sesiynau eraill ar bolisïau'n ymwneud â Chwaraeon (8 Mawrth) a'r Gymraeg (5 Ebrill).

Yn ystod y cyfarfod ar 1 Chwefror, bydd y Pwyllgor hefyd yn clywed cyflwyniad gan Huw Jones, Prif Weithredwr Cyngor Chwaraeon Cymru, a fydd yn rhoi gorolwg o bêl-droed yng Nghymru, cyn trafod cylch gorchwyl a thystiolaeth ar gyfer adolygiad y Pwyllgor o Bêl-droed yng Nghymru. Bydd y Pwyllgor hefyd yn trafod Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Gydraddoldeb ar gyfer 2004-05. Cynhelir y cyfarfod ddydd Mercher 1 Chwefror, rhwng 9.00am - 12.00pm yn Ystafell Bwyllgora 2, Bae Caerdydd. Manylion llawn ac agenda