Cyhoeddwyd 24/05/2006
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Y Pwyllgor Diwylliant i gasglu tystiolaeth ynghylch uno Bwrdd yr Iaith Gymraeg â'r Llywodraeth
Yn ei gyfarfod nesaf, bydd y Pwyllgor Diwylliant yn casglu rhagor o dystiolaeth ar gyfer ei adolygiad o bapurau newydd Saesneg yng Nghymru.
Bydd Keith Dye, rheolwr gyfarwyddwr Western Mail and Echo, ac Alan Edmunds, golygydd y Western Mail, yn annerch y Pwyllgor, ynghyd â Gavin Steacy, Prif Weithredwr, Newsquest Wales and Gloucestershire (Newsquest sy'n cyhoeddi'r South Wales Argus a nifer o bapurau newydd wythnosol yng Nghymru).
Bydd Meri Huws a Meirion Prys Jones, Cadeirydd a Phrif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, hefyd yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor ynghylch trosglwyddo cyfrifoldebau'r Bwrdd i Lywodraeth y Cynulliad.
Cynhelir y cyfarfod am 9am ddydd Mercher 24 Mai yn Ystafell Bwyllgora 1, y Senedd.
Manylion llawn ac agenda: