Y Pwyllgor Diwylliant i gynnal ei adolygiad terfynol o bêl-droed yng Nghymru

Cyhoeddwyd 28/09/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Y Pwyllgor Diwylliant i gynnal ei adolygiad terfynol o bêl-droed yng Nghymru

Bydd Ann Jones AC, cefnogwr clwb pêl-droed y Rhyl, yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon fel rhan o'i adolygiad o bêl-droed yng Nghymru yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 28 Medi yn Ystafell Bwyllgora 3 y Senedd. Bydd y Pwyllgor hefyd yn derbyn cyflwyniadau gan gynrychiolwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru; UEFA a CLILC yn ei gyfarfod nesaf. Yn ystod y cyfarfod, bydd yr Aelodau hefyd yn adolygu'r cynllun Iaith Gymraeg drafft ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru, a byddant hefyd yn ystyried adroddiad ar Ddigido Diwylliant gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Cynhelir y cyfarfod am 9.00am yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, Bae Caerdydd. Manylion llawn ac agenda