Cyhoeddwyd 13/12/2006
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Y Pwyllgor Diwylliant i ystyried uno Bwrdd yr Iaith Gymraeg â’r Llywodraeth
Bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon yn trafod uno Bwrdd yr Iaith Gymraeg â Llywodraeth Cynulliad Cymru ddydd Mercher 13 Rhagfyr yn y Senedd.
Bydd y Pwyllgor yn trafod y sefyllfa gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac yn derbyn cyflwyniad ar waith a chwmpas Swyddfa Comisiynydd y Wyddeleg.
Bydd yr Aelodau hefyd yn archwilio sylwadau’r Gweinidog ar ddatblygu polisi chwaraeon yn y dyfodol a’r berthynas rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru ac yn ystyried y Mesur Newid i’r Digidol (Datgelu Gwybodaeth).
Caiff y cyfarfod ei gynnal am 9.00am yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd, Bae Caerdydd.
Manylion llawn ac agenda