Cyhoeddwyd 14/03/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Y Pwyllgor Iechyd i drafod Comisiynu Gofal Iechyd
Bydd Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Gomisiynu Gwasanaethau Iechyd yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher 14 Mawrth.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn craffu ar waith y Gweinidog o ran ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynigion moderneiddio Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac yn ystyried Fframwaith cymunedol arfaethedig y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Diogel ac Effeithlon.
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 2, y Senedd, Bae Caerdydd am 9:30am ddydd Mercher 15 Mawrth.
Manylion llawn ac agenda
I archebu sedd ffoniwch 0845 010 5500 neu anfonwch e-bost i archebu@cymru.gsi.gov.uk. Rhowch wybod i’r swyddfa archebu am unrhyw anghenion arbennig sydd gennych.