Cyhoeddwyd 25/01/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Y Pwyllgor Iechyd i graffu ar y Mesur Iechyd Meddwl
Bydd Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar y Mesur Iechyd Meddwl yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 25 Ionawr.
Bydd y Pwyllgor yn trafod y Mesur gyda chynrychiolwyr Cymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru a Hafal. Sefydliad gwirfoddol yw Hafal sy’n gweithio gyda phobl sy’n gwella o salwch meddwl difrifol, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Bydd yr Aelodau hefyd yn trafod adroddiad Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, “Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol”.
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 1, y Senedd, Bae Caerdydd.
Manylion llawn ac agenda
I gadw sedd, ffoniwch 0845 010 5500 neu anfonwch e-bost i archebu@cymru.gsi.gov.uk. Rhowch wybod i’r swyddfa archebu am unrhyw anghenion arbennig sydd gennych.