Y Pwyllgor Iechyd i gynnal ymchwiliad i ganiatâd tybiedig

Cyhoeddwyd 24/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Iechyd i gynnal ymchwiliad i ganiatâd tybiedig

Mae Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Cynulliad yn mynd i gynnal ymchwiliad i ganiatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau.

Mae materion rhoi organau a sut i gynyddu’r nifer sydd ar gael yn cael eu tanategu gan brinder rhoddwyr ar hyn o bryd ynghyd â phryderon cyffredinol o du’r llywodraeth a’r proffesiwn meddygol fod y nifer gynyddol o bobl hyn a’r lefelau gordewdra sy’n codi yn arwain at y clefyd siwgr a difrod i’r arennau ac yn golygu’i bod hi’n anorfod mai cynyddu a wnaiff y galw am organau yn y dyfodol.      

Er nad oes gan y Cynulliad ar hyn o bryd gymhwysedd deddfwriaethol yn y maes hwn, gallai ystyried posibilrwydd gofyn am Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.

Mae’r Pwyllgor deisebau eisoes wedi derbyn dau gyflwyniad sy’n galw am ganiatâd tybiedig ac mae Edwina Hart, y Gweinidog Iechyd, wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater.

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i gynnal ei ymchwiliad ei hun i edrych ar faterion megis fframwaith cyfreithiol posibl ar gyfer system o ganiatâd tybiedig, barn y cyhoedd a buddgyfranogwyr, a sut y byddai’r system yng Nghymru’n gweithio mewn perthynas â gweddill y DU.

Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ddydd Mercher 30 Ionawr am 9am yn y Senedd i gytuno ar gylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad ac i edrych ar y sefyllfa gyfreithiol.  Bydd hefyd yn clywed tystiolaeth gan Aren Cymru.

Dywedodd Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae hi’n glir bod angen gwneud rhywbeth i gynyddu’r nifer o organau sydd ar gael i’w trawsblannu..  Efallai y byddai system o ganiatâd tybiedig yn helpu ond mae’n rhaid inni edrych ar yr holl faterion sydd yn gysylltiedig gan gynnwys materion ymarferol ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd ac a oes ffyrdd eraill o wella’r sefyllfa.   

“Maes sensitif iawn yw hwn ac ‘rydym eisiau sicrhau ein bod yn gwrando ar ystyriaethau moesol, moesegol a chrefyddol yn ogystal â barn y cyhoedd yn gyffredinol..

“’R wy’n hyderu y bydd y Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad cadarn a defnyddiol i fater caniatâd tybiedig, gan wrando ar farn ystod eang o bobl parthed ai hon yw’r ffordd gywir ymlaen..

“Bydd Aren Cymru’n bresennol yn ein cyfarfod ac ‘r wy’n edrych ymlaen am glywed eu tystiolaeth fel man cychwyn.”

Mwy o fanylion am y pwyllgor