Y Pwyllgor Menter, Arloesi a Rhwydweithiau i drafod gwasanaethau rheilffyrdd Cymru

Cyhoeddwyd 14/02/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Menter, Arloesi a Rhwydweithiau i drafod gwasanaethau rheilffyrdd Cymru

Bydd y Pwyllgor Menter, Arloesi a Rhwydweithiau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod y ddarpariaeth o wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor a gynhelir ddydd Mercher 14 Chwefror. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod y pwnc gyda chynrychiolwyr o Virgin Trains a Passenger Focus. Hefyd, caiff y pwyllgor adroddiad gan y Gweinidog, a thrafodaeth ar werth ychwanegol crynswth Cymru. Cynhelir y cyfarfod yn ystafell bwyllgora 2, y Senedd, ym Mae Caerdydd, am 9:00am ddydd Mercher 14 Chwefror. Manylion llawn ac agenda I neilltuo sedd ffoniwch 0845 010 5500 neu anfonwch e-bost at: assembly.bookings@wales.gsi.gov.uk Rhowch wybod i’r swyddfa archebu am unrhyw anghenion arbennig sydd gennych. Mae’r llinell archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9:00am a 4:30pm.