Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i holi undebau athrawon ynglyn â thlodi plant

Cyhoeddwyd 24/06/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i holi undebau athrawon ynglyn â thlodi plant

Bydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn y Cynulliad yn cymryd tystiolaeth gan undebau athrawon a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor a gynhelir ddydd Mercher 25 Mehefin 2008.

Bydd aelodau’r pwyllgor yn cynnal trafodaethau gyda NASUWT; Cymdeithas Athrawon a Darlithwyr Cymru; a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru ynglyn â swyddogaeth addysg wrth fynd i’r afael â thlodi plant, tra bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn rhoi safbwynt awdurdodau lleol ar y materion.

Cynhelir y cyfarfod rhwng 9:00am ac 11:00am ddydd Mercher 25 Mehefin, yn Ystafell Bwyllgora 2 y Senedd ym Mae Caerdydd.

Mwy o wybodaeth am y pwyllgor a’r ymchwiliad