Y sector gofal iechyd a meddyginiaethau i wynebu heriau pe byddai Brexit digyfeiriad heb fargen, yn ôl Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad

Cyhoeddwyd 03/12/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/12/2018

Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fargen yn golygu y byddai sector gofal iechyd a meddyginiaethau Cymru yn wynebu nifer o heriau sylweddol, medd Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad Cenedlaethol.

tablets

Fel rhan o'i ymchwiliad i sut y mae'r sector yng Nghymru yn paratoi ar gyfer Brexit, clywodd y Pwyllgor ystod eang o bryderon gan sefydliadau yn y sector iechyd ynghylch y prinder amser i baratoi ar gyfer canlyniad o'r fath. Amlinellwyd goblygiadau posibl Brexit i'r trefniadau cyflenwi meddyginiaethau yn barhaus, ynghyd â mynediad at ymchwil glinigol a'r gallu i gadw'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir gymaint o heriau a fyddai'n wynebu'r sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru pe ceir Brexit heb fargen."

"Mae'r pryderon yn cwmpasu ystod o faterion gan gynnwys trefniadau cyflenwi meddyginiaethau yn barhaus, trefniadau gofal iechyd cyfatebol a materion sy'n ymwneud â'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl Brexit."

"Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei hymdrechion i baratoi'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar gyfer Brexit. Mae hyn yn cynnwys rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnom fod cynlluniau ar droed i gyfathrebu â phob lefel o'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru."

O ran cyflenwi meddyginiaethau, dywedodd Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain wrth y Pwyllgor fod 45 miliwn o becynnau meddyginiaeth i gleifion yn cael eu cludo o'r DU i'r UE bob mis, a thros 37 miliwn o becynnau meddyginiaeth yn symud i'r cyfeiriad arall. Er i'r Pwyllgor glywed y bydd Llywodraeth y DU yn arwain o ran sicrhau cyflenwad meddyginiaethau parhaus, Llywodraeth Cymru fydd angen sicrhau na chaiff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ei effeithio'n negyddol yn sgil senario Brexit 'dim bargen'.

Dywedodd David Rees AC:

"Mae faint o feddyginiaethau sy'n cael eu cludo i'r ddau gyfeiriad, ochr yn ochr â'r posibilrwydd i gadwyni cyflenwi gael eu hamharu mewn senario Brexit 'dim bargen' wir wedi gwneud inni ystyried yr angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cynlluniau ar droed i atal hyn rhag digwydd. Dyna pam y gwnaethom ni argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhannu â ni fanylion ei gydweithrediad â Llywodraeth y Du ar y mater hwn."

Gwnaeth y Pwyllgor bum argymhelliad yn ei adroddiad, i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • bod Llywodraeth Cymru yn darparu manylion ynghylch y risgiau y mae wedi eu nodi o ran parodrwydd sector gofal iechyd Cymru ar gyfer Brexit, a manylion ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyfathrebu cynlluniau parodrwydd gyda phob lefel o'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru;

  • bod Llywodraeth Cymru yn darparu manylion ynghylch ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU ar eu cydweithrediad wrth baratoi ar gyfer Brexit o ran meddyginiaethau, gan gynnwys y gwaith sydd ar y gweill i sicrhau bod digon o le mewn warysau i fodloni unrhyw ofynion posibl o ran storio mewn swmp;

  • bod Llywodraeth Cymru yn amlinellu manylion ynghylch sut y mae'n pwyso ar Lywodraeth y DU i gadw cydweithrediad parhaus rhwng y DU a'r UE o ran rheoleiddio i sicrhau mynediad at feddyginiaethau ac ymchwil glinigol ar ôl Brexit.

  • bod Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau mynediad at radioisotopau meddygol ar ôl Brexit; a

  • bod Llywodraeth Cymru yn rhoi i'r Pwyllgor fanylion o ran diweddaru cynlluniau recriwtio a chadw staff y sector iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl Brexit.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Paratoi ar gyfer Brexit – Adrodd ar barodrwydd y sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru (PDF, 275 KB)