Y Senedd yn croesawu’i 500,000fed ymwelydd

Cyhoeddwyd 24/10/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Senedd yn croesawu’i 500,000fed ymwelydd

Maura Buckley (canol), y 500,000fed ymwelydd â’r Senedd gyda’i chwaer
Esther Lewis a Phrif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Claire Clancy.

Croesawodd y Senedd ei 500,000 fed ymwelydd ddydd Mawrth 23 Hydref.

Bu Maura Buckley o’r Fenni ar ymweliad â’r Senedd fel rhan o ddiwrnod allan yng Nghaerdydd i ddathlu’i 71ain pen-blwydd gyda’i chwaer Esther Lewis o Ofilon – a hi oedd y 500,000fed  ymwelydd ers i’r Senedd agor ym mis Chwefror 2006.

I nodi’r achlysur, cyflwynodd Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Claire Clancy, sydd hefyd yn dod o ardal y Fenni, fag o nwyddau o siop y Cynulliad yn y Lanfa i Miss Buckley, sy’n dod yn wreiddiol o Gorc yn Iwerddon.  Cafodd y ddwy chwaer hefyd fynd ar daith o amgylch y Senedd a chwblhau eu hymweliad cyntaf â’r Senedd gyda phaned o de a darn o gacen am ddim o siop goffi’r Senedd.   

Dywedodd Miss Buckley “Rwyf wedi bod eisiau ymweld â’r Senedd ers iddo agor a chan ein bod yng Nghaerdydd am y diwrnod meddyliais y byddem yn galw i mewn.  Roedd yn dipyn o syndod  mai fi oedd y 500,000fed ymwelydd ond ychwanegodd at ben-blwydd hyfryd!”