Yn dilyn pleidlais yn y Senedd heddiw [4 Mawrth 2026] mae’r Aelodau wedi cymeradwyo enwebiad Catherine Mealing-Jones i’w phenodi gan y Goron yn Archwilydd Cyffredinol newydd Cymru.
Mae'r bleidlais ar 4 Mawrth yn dilyn penderfyniad gan y Pwyllgor Cyllid i’w dewis fel yr ymgeisydd a ffefrir.
Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn rôl hanfodol, annibynnol ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae’n sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn rheoli cyllid mewn ffordd effeithlon a thryloyw, i'r safonau llywodraethu uchaf.
Mae Catherine yn was cyhoeddus gyda dros 30 mlynedd o brofiad mewn gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys Cyfarwyddwr Twf yn Asiantaeth Ofod y DU a Phrif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae hi hefyd yn Gyfrifydd Cyllid Cyhoeddus Siartredig.
Dywedodd:
“Anrhydedd yw cael fy enwebu’n Archwilydd Cyffredinol newydd ar gyfer Cymru a chael y cyfle i adeiladu ar waith gwych Adrian Crompton yn ystod ei gyfnod yn y rôl. Mae gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn wynebu pwysau gwirioneddol a chynyddol ac mae mynd i'r afael â’r pwysau hynny yn gofyn am atebion cynaliadwy hirdymor a dulliau ffres i sicrhau bod holl bobl Cymru yn parhau i gael y gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt.
“Fy mlaenoriaeth fydd gweithio'n agos gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus i gefnogi eu hymdrechion i gyflawni ar gyfer cymunedau, sicrhau'r gwerth mwyaf am arian cyhoeddus, a chryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd drwy sicrhau'r safonau uchaf o ran gwneud penderfyniadau, tryloywder ac atebolrwydd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r tîm cyfan yn Swyddfa Archwilio Cymru a chwarae fy rhan i sicrhau hyder parhaus yn y ffordd y mae Cymru'n cael ei llywodraethu.”
Arweiniwyd y broses recriwtio gan Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Dywedodd:
"Ar ran y Pwyllgor Cyllid, rwy'n falch iawn y bydd Catherine yn cael ei phenodi i'r rôl bwysig hon.
“Mae hi wedi dangos ymrwymiad dwfn i wasanaeth cyhoeddus drwy gydol ei gyrfa nodedig hyd yn hyn ac wedi dangos y rhinweddau allweddol sy’n ofynnol ar gyfer y swydd hon.
“Gwnaeth profiad ac uniondeb Catherine argraff dda ar y panel a’r Pwyllgor, ac maent yn teimlo ei bod hi mewn lle da iawn i barhau â’r gwaith hanfodol a wneir gan Swyddfa Archwilio Cymru a’i ddatblygu.”
Mae disgwyl i Catherine ddechrau yn ei swydd ym mis Gorffennaf, pan fydd Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol presennol, yn camu i lawr o’i swydd.
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid - Enwebu Archwilydd Cyffredinol Cymru