Bydd David Melding AC, Dirprwy Lywydd y Cynulliad, a Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn cynnal gwasanaeth coffa yn y Senedd ar 8 Gorffennaf, i nodi ugain mlynedd ers hil-laddiad Srebrenica.
Caiff y digwyddiad coffa hwn ei drefnu gan Remembering Srebrenica, elusen yn y DU ac yn dechrau am 18.00.
Bydd y gwasanaeth coffa yn un o ddim ond tri digwyddiad coffa swyddogol yn y DU, gyda'r digwyddiadau eraill yn Abaty Westminster a Chadeirlan St Giles yng Nghaeredin.
Ar 11 Gorffennaf 1995, cwympodd Srebrenica, cilfach Fwslemaidd yn Bosnia, dan reolaeth Lluoedd Serbia a dros y deg diwrnod canlynol lladdwyd mwy nag 8,000 o Foslemiaid yn yr erchylltra gwaethaf yn Ewrop ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Arweiniodd y Dirprwy Lywydd ddirprwyaeth o Aelodau'r Cynulliad i Bosnia ym mis Ebrill, lle gosodwyd torch yng Nghanolfan Goffa Srebrenica-Potočari.
Dywedodd David Melding AC, Dirprwy Lywydd y Cynulliad, "Roeddwn i, ynghyd â'm cydweithwyr yn y Cynulliad, yn westeion Remembering Srebrenica yn Bosnia ym mis Ebrill lle clywsom hanesion yn uniongyrchol gan y goroeswyr a mamau'r rheini a laddwyd.
"Mae'n anodd credu o hyd y digwyddodd hyn yn Ewrop ugain mlynedd yn ôl. Rwy'n falch bod y Cynulliad Cenedlaethol yn chwarae ei ran yn sicrhau nad ydym yn anghofio. Byddwn yn croesawu goroeswyr i'r Senedd i gofio beth ddigwyddodd ym maes y gyflafan yn y Balcan dim ond dau ddegawd yn ôl."
Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru:
"Rhai o'r adegau mwyaf erchyll yn hanes diweddar Ewrop, ni fyddwn yn anghofio Srebrenica yma yng Nghymru. Rydym am fyw mewn cymdeithas sy'n gwrthod rhagfarn ac yn croesawu goddefgarwch, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn cofio ac yn sicrhau na fydd yr anoddefgarwch a'r casineb crefyddol a hiliol a ddigwyddodd yn y Balcan, dim ond ugain mlynedd yn ôl, fyth yn digwydd eto."
Dywedodd Dr Waqar Azmi OBE, Cadeirydd Remembering Srebrenica:
"Mae eleni'n nodi ugain mlynedd ers yr hil-laddiad yn Srebrenica - yr erchyllter mwyaf yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd sy'n fodd o'n hatgoffa o greulondeb dyn tuag at eraill.
"Bydd digwyddiadau coffa yng Nghaerdydd a ledled y DU yn cofio'r dynion a'r bechgyn hynny a lofruddiwyd yn systematig yn Srebrenica, yn ogystal â chaniatáu i'r rheini sy'n bresennol ystyried sut y gallant wneud cyfraniad personol er mwyn helpu i greu cymdeithas well, sy'n fwy diogel ac yn gryfach drwy ddysgu gwersi o hanes."
Mae pedair mam o Srebrenica - a gollodd wŷr, meibion, tadau a brodyr yn yr erchyllter - ac un o oroeswyr yr hil-laddiad, yn cymryd rhan yn y digwyddiad. Bydd y fam, Nura Begović, a'r goroeswr, Nedžad Avdić, yn siarad am eu profiadau erchyll a thorcalonnus o'r hil-laddiad.