Image Credit: Wales News Service

Image Credit: Wales News Service

Y Senedd yn dathlu pencampwyr Cymru yn Gemau’r Gymanwlad

Cyhoeddwyd 15/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Cafodd pencampwyr Cymru yn Gemau’r Gymanwlad groeso arwyr yn y Senedd yn ystod digwyddiad arbennig i’w croesawu gartref, gan anrhydeddu a dathlu eu llwyddiannau yn Gemau'r Gymanwlad eleni.

Daeth athletwyr sydd wedi ennill medalau, fel Olivia Breen, a enillodd y fedal aur, ac enillydd medal hynaf erioed Gemau'r Gymanwlad, Gordon Llewellyn, allan i fonllefau o gymeradwyaeth gan y torfeydd a oedd yn dathlu yn heulwen mis Awst.

I gofio eu perfformiadau dros yr haf, cyflwynwyd medalau wedi'u comisiynu'n arbennig gan y Bathdy Brenhinol i athletwyr a hyfforddwyr Tîm Cymru. 

Yn siarad yn y dathliad, dywedodd Aled Sion Davies, enillydd y medal aur yn y disgen:

“Ar ol 2014, doeddwn i ddim yn credu byswn yn cael y cyfle i gynrychioli Cymru eto - ac mae’n rhywbeth sydd mor agos i fy nghalon. Mae’n deimlad arbennig rhoi crys Cymru ymlaen ac rydym yn genedl sydd yn falch iawn o’n hetifeddiaeth.

“Fel athletwyr, pan rydym yn cynrychioli Tim GB, mae’r grwp Cymreig wastad yn gryf iawn a dyna pam bod fi’n caru Gemau’r Gymanwlad gan ei fod yn rhoi cyfle i ni gynrychioli – ac ennill medalau – dros Gymru.”

Estynnodd Dirprwy Lywydd y Senedd, David Rees AS a'r Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, eu llongyfarchiadau i Dîm Cymru, a mynegi eu balchder mawr yn llwyddiannau Tîm Cymru yn Birmingham eleni.

Darparwyd adloniant gan fand jazz pedwar aelod o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a chafwyd uchafbwynt ar ddiwedd y dathliadau gyda pherfformiad o Hen Wlad fy Nhadau gan y grŵp theatr gerdd, Welsh of the West End.

Dywedodd David Rees AS, Dirprwy Lywydd y Senedd:

"Roedd hon yn noson anhygoel, braf oedd gweld cymaint o bobl yn dod allan i'r Senedd i ddathlu ein Tîm Cymru buddugoliaethus sydd, unwaith eto, wedi gwneud ein cenedl yn hynod o falch o fod yn Gymry.

"Heb os, mae’r gallu athletaidd, yr angerdd a’r dyfalbarhad a ddangoswyd gan Dîm Cymru wedi bod yn ddim llai nag ysbrydoledig, gydag eiliadau chwaraeon bythgofiadwy dros yr haf gan un o'n timau mwyaf amrywiol a chytbwys erioed o ran rhywedd. 

"Maen nhw'n sicr o ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fawrion chwaraeon Cymru ac wedi profi bod Cymru'n genedl o bencampwyr sy'n gallu cynhyrchu mabolgampwyr a all ymateb i'r achlysur a pherfformio ar lwyfan y byd."

Dywedodd Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru:

"Roedd yn wych bod yn y Senedd i ddathlu a dangos ein diolch i Dîm Cymru am eu llwyddiannau yn y Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham. 

"Diolch yn fawr i'n holl athletwyr anhygoel am gynrychioli ein cenedl ar y llwyfan chwaraeon byd-eang. 

"Rydyn ni'n genedl fach sy'n dyrnu ymhell uwchlaw ei phwysau yn y maes chwaraeon ac rydyn ni i gyd yn hynod falch o lwyddiannau anhygoel Tîm Cymru yn y gemau."