Y Senedd yn dod ar frig rhestr o adeiladau gwyrdd ar Ddiwrnod Prydain Werdd
Mae adeilad nodedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd wedi cael ei enwi’n adeilad llywodraeth mwyaf gwyrdd y Deyrnas Unedig yn ôl meddalwedd unigryw ‘IRT Energy’ software, a chanddo rinweddau gwyrddach na sefydliadau yn Lloegr a’r Alban.
Daw’r cyhoeddiad ar yr un diwrnod â Diwrnod Prydain Werdd (10 Gorffennaf) ac mae’n dangos bod yr adeilad eiconig yn cyflawni ei amcan o fod sefydliad sy’n rhoi bri ar gynaliadwyedd amgylcheddol.
Gall y feddalwedd ‘IRT Energy’ gyfrifo faint o ynni a gaiff ei golli a faint o lygredd a gaiff ei allyrru drwy doeau a ffenestri. Mae’r feddalwedd yn gallu darparu lefel o ddadansoddi nad oedd yn bosibl hyd yma.
Dywedodd Lorraine Barrett AC, Comisiynydd y Cynulliad Cynaliadwy: “O’r cychwyn cyntaf, gorchwyl adeilad y Senedd oedd bod yn amgylcheddol gynaliadwy, ac mae’r wobr hon gan ‘IRT Energy’ yn dangos ein bod wedi cyflawni hynny, nid yn unig ar lefel y DU, ond hefyd o gymharu’r Senedd ag adeiladau Llywodraeth/cyrff deddfwriaethol yn yr Almaen.”
“Bob mis, rwy’n cyfarfod â channoedd o ymwelwyr sydd wedi gwirioni ar yr adeilad ond mae cynaliadwyedd yr adeilad hefyd yn creu argraff arnynt. Mae’r Senedd yn adeilad eiconig i Gymru ac mae hefyd yn eiconig mewn synnwyr amgylcheddol. Rwy’n gobeithio bod hyn yn gosod y safon ar gyfer adeiladau cyhoeddus ar draws Cymru a gweddill y DU.”
Adeiladwyd y Senedd i’r fanyleb amgylcheddol uchaf (Rhagoriaeth BREEAM) ac mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i weithio ar y cyd â sefydliadau partner, fel yr Ymddiriedolaeth Garbon, i sicrhau bod yr adeilad yn cyflawni ei botensial yn llawn o ran gosod esiampl amgylcheddol.
Fel gweddill ystâd Bae Caerdydd, mae’r Senedd wedi ennill rhagoriaeth Lefel 5 yn System Reoli Amgylcheddol y Ddraig Werdd.
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn cadw golwg agos ar faint o ynni a ddefnyddir yn y Senedd ac mae wrthi’n cynllunio rhaglen effeithlonrwydd ynni. Dylai’r rhaglen hon wella perfformiad amgylcheddol yr adeilad ymhellach a’n cryfhau statws un o adeiladau arloesol Cymru fel adeilad gwyrdd.