Y siambr drafod bwrpasol gyntaf yn Ewrop i ieuenctid ar fin agor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
Bydd canolfan addysg ryngweithiol newydd sbon y Cynulliad Cenedlaethol, sy’n cynnwys y siambr drafod bwrpasol gyntaf yn Ewrop i ieuenctid, yn cael ei hagor yn swyddogol ddydd Iau, 17 Ebrill am 10.00am. Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fydd yn agor y ganolfan, a hynny gyda chymorth disgyblion o Ysgol Pencae.
Bydd yr Arglwydd Elis-Thomas yn croesawu’r plant ac yn cadeirio dadl agoriadol arbennig gyda’r disgyblion.
Enw’r ganolfan newydd, sydd wedi’i lleoli yn hen siambr drafod y Cynulliad yn Nhy Hywel, fydd “Siambr Hywel”. Mae wedi’i henwi ar ôl Hywel Dda, sef y cyntaf i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru a chyflwyno cyfres gyffredinol o gyfreithiau drwy’r wlad yn y ddegfed ganrif.
Bydd ymwelwyr yn dechrau ar eu hymweliad addysgol gyda dadl ar bwnc llosg yn Siambr Hywel, o dan arweiniad un o chwe Swyddog Addysg y Cynulliad. Cynhelir y ddadl o dan yr un rheolau â’r rheini sy’n cael eu defnyddio gan y Cynulliad, gyda’r siaradwyr yn gwneud cais ac yn cael eu galw i siarad. Bydd grwpiau wedyn yn pleidleisio ar gynnig sy’n ymwneud â’r ddadl gan ddefnyddio’r system bleidleisio electronig. Wedi hynny, byddant yn symud i’r ystafell weithgareddau drws nesaf i gymryd rhan mewn gweithdai ar y Cynulliad a’r ffordd mae’r sefydliad yn gweithio, cyn mynd draw i’r Senedd i ddysgu mwy am yr adeilad. Efallai y bydd cyfle i gyfarfod eu Haelodau Cynulliad hefyd.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae’r ganolfan ddysgu newydd hon yn gam mawr ymlaen i’r Cynulliad Cenedlaethol wrth feithrin cysylltiadau gyda phobl ifanc Cymru. Mae’r cyfleusterau sydd gennym yma yn arloesol, ac rwy’n falch iawn fy mod yn agor y siambr drafod bwrpasol gyntaf erioed i ieuenctid yn Ewrop.
“Meithrin cysylltiadau â’r cyhoedd a’u hannog i gyfrannu at ddemocratiaeth yw un o’r tasgau anoddaf sy’n ein hwynebu fel cynrychiolwyr etholedig, ond bydd Siambr Hywel a’r gwaith a fydd yn mynd rhagddo yno yn rhoi cyfle heb ei ail i’r Cynulliad gael dechrau da gyda’n pobl Ifanc. Gobeithio y bydd hynny’n ennyn brwdfrydedd a diddordeb mewn democratiaeth a dinasyddiaeth, a fydd yn para gydol oes.”