Y Trydydd Cynulliad wedi’i Agor

Cyhoeddwyd 05/06/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Y Trydydd Cynulliad wedi’i Agor

Mae ei Mawrhydi Y Frenhines wedi agor y Trydydd Cynulliad yn swyddogol, yng nghwmni Dug Caeredin, Tywysog Cymru a Duges Cernyw.                                   Roedd Aelodau’r Cynulliad a chynrychiolwyr y Farnwriaeth yn bresennol yn y seremoni yn y Senedd, lle cludwyd y byrllysg i mewn i’r Siambr i ddynodi agoriad y Cynulliad. Yna, llofnododd Y Frenhines femrwn i nodi agoriad y Trydydd Cynulliad.   Perfformiodd Band y Môr-filwyr Brenhinol y tu allan i’r Senedd a daeth aelodau’r cyhoedd, yn cynnwys plant ysgol, pobl hyn a chynrychiolwyr o sefydliadau gwirfoddol i weld y teulu Brenhinol yn cyrraedd. Hefyd, cafwyd cyfarchiad un ergyd ar hugain gan HMS Exeter sydd wedi’i hangori ym Masn y Rhath ers wythnos.      Perfformiodd band Pres Symffonig Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Chôr Ysgolion Caerdydd a Bro Morgannwg y tu mewn i’r Senedd.