Y Wobr Aur - Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael y wobr Buddsoddwyr mewn Pobl am y trydydd tro

Cyhoeddwyd 01/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/07/2016

​Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ennill gwobr aur Buddsoddwyr mewn Pobl am y trydydd tro.

Buddsoddwyr mewn Pobl yw prif safon gwella busnes rheoli pobl y DU. Mae’n cael ei defnyddio gan ddegau o filoedd o bobl mewn sefydliadau mewn mwy na 50 o wledydd. Mae’n galluogi sefydliadau i feincnodi eu hunain yn erbyn rhai o’r cyflogwyr gorau yn y byd, a dim ond llond llaw sy’n ennill y wobr aur.

Dywedodd Elin Jones AC, y Llywydd:

"Mae’r gwaith a gyflawnir gan staff Comisiwn y Cynulliad yn amhrisiadwy i ni fel Aelodau’r Cynulliad. Maent yn ein galluogi ni i wneud gwaith democrataidd y Cynulliad; i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Mae Gwobr Aur Buddsoddwyr mewn Pobl yn dangos bod y Cynulliad Cenedlaethol yn llwyddo o ran buddsoddi yn ei staff. Bydd yr ymrwymiad hwnnw’n parhau wrth i ni ymdrechu i wella gwasanaethau sydd eisoes yn wasanaethau seneddol rhagorol.”

Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad:

“Ni fyddai llwyddiannau’r Comisiwn yn bosibl heb waith caled, ymroddiad a safon uchel staff y Cynulliad, ym mhob rhan o’r sefydliad.

Gyda’r staff ardderchog sy’n gweithio yma, rydym wedi ymrwymo i gyflawni pob agwedd ar gyfrifoldebau’r Comisiwn yn gyflym, gydag arbenigedd proffesiynol, gydag ethos gwasanaeth cadarn a chyda thryloywder ac atebolrwydd.

Rwy’n hynod falch o gyflawniadau’r staff sy’n gweithio i’r Comisiwn, ac rwyf wrth fy modd bod y cyflawniadau wedi’u cydnabod drwy’r nifer o wobrau allanol a enillwyd gan y Cynulliad, gan gynnwys y Wobr Aur Buddsoddwyr mewn Pobl. Mae’n bleser arwain tîm mor dalentog a brwdfrydig."

Roedd yr Adroddiad Buddsoddwyr mewn Pobl, a oedd yn cyd-fynd â’r dyfarniad, yn dweud bod prif gryfderau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys:

  • Eglurder o ran pwrpas, gweledigaeth ac amcanion, sydd wedi cael ei gyfleu’n effeithiol ar draws y sefydliad cyfan.
  • Dealltwriaeth ardderchog o "gwsmeriaid" allweddol y sefydliad a’r gymuned ehangach fel ei gilydd, a dealltwriaeth o’u hanghenion, a hynny gan ddarparu gwasanaethau allweddol sy’n bodloni’r anghenion hynny’n rhagorol ac mewn modd cost-effeithiol.
  • Ymrwymiad pendant gan bawb yn y sefydliad i gyflawni nodau a blaenoriaethau allweddol y sefydliad.
  • Arweinyddiaeth gref o’r brig, sy’n nodi sut y bydd y dirwedd a’r amgylchedd y mae’r sefydliad yn gweithredu ynddo yn newid, a goblygiadau newidiadau o’r fath ar gyfer y sefydliad ei hun.
  • Ethos y mae pobl ar draws y sefydliad yn unieithu ag ef, lle y maent yn deall ac yn ymddwyn yn gyson â’r Gwerthoedd sy’n cefnogi’r diwylliant hwn.
  • Ymdeimlad gan y rhan fwyaf o bobl bod perfformio’n dda iawn a gweithio’n galed yn cael ei gydnabod gan y sefydliad.
  • Ffordd o weithio lle y caiff gwaith tîm a chydweithio ei annog a lle y mae’n gyffredin, a lle y mae pobl yn ymdrechu i weithio’n effeithiol ar draws adrannau gwahanol.
  • Penderfynoldeb i wella ac i sicrhau bod y sefydliad yn parhau i fynd o nerth i nerth yn y dyfodol.