Ymchwiliad i adolygu sut y caiff gwasanaethau mabwysiadau eu darparu yng Nghymru

Cyhoeddwyd 09/12/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ymchwiliad i adolygu sut y caiff gwasanaethau mabwysiadau eu darparu yng Nghymru

9 Rhagfyr 2011

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dechrau ymchwiliad newydd a fydd yn archwilio sut y caiff gwasanaethau mabwysiadu eu darparu yng Nghymru.

Bydd yr ymchwiliad yn ymdrin â materion fel y broses o asesu darpar rieni; yn canfod unrhyw ffactorau sy’n rhwystro pobl rhag mabwysiadu ac y dylid eu dileu; ac yn ystyried y cymorth a roddir i deuluoedd sy’n mabwysiadu.

Bydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn gofyn am farn sefydliadau ac unigolion perthnasol yng Nghymru, gan gynnwys y rheini sydd â phrofiad personol o’r broses fabwysiadu.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc: “Gall y broses fabwysiadu gynnwys rhai o’n plant mwyaf bregus, ac mae’r Pwyllgor wedi dewis cynnal yr ymchwiliad hwn gan ei fod yn credu bod achosion o oedi diangen, sy’n rhoi gormod o straen ar blant a darpar deuluoedd.”

“Mae’n bwysig ein bod yn casglu barn pobl sydd wedi dod i gysylltiad uniongyrchol â’r broses fabwysiadu, gan mai eu lles hwy fydd wrth galon ein casgliadau a’n hargymhellion. Felly, byddwn yn annog unrhyw un sydd â phrofiad o’r fath i gymryd rhan a dweud eu barn wrthym.

“Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi newidiadau i wasanaethau mabwysiadu ar waith ar hyn o bryd, ac yn ei rhaglen ar gyfer y pum mlynedd nesaf mae wedi cyflwyno cynlluniau i greu un asiantaeth mabwysiadu genedlaethol.

“Rydym ni fel Pwyllgor yn awyddus i gynnal yr ymchwiliad pwysig hwn yn awr gan obeithio y bydd ein canfyddiadau yn helpu i lywio’r polisi mabwysiadu yn y dyfodol, ac yn helpu i gael gwared ar rywfaint o’r straen diangen sydd ar bawb sy’n ymwneud â’r broses fabwysiadu.”

Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu tystiolaeth at yr ymchwiliad anfon e-bost at CYPCommittee@wales.gov.uk, neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.